Howard Plumb yn syrffio gwynt
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i syrffiwr gwynt Olympaidd fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngorllewin Swydd Sussex nos Sadwrn.
Cafodd Howard Plumb, 42, oedd wedi cynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd Atlanta yn 1996, anafiadau difrifol i’w ben yn dilyn gwrthdrawiad â char Honda tua 5.15yh nos Sadwrn.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn Llundain ond bu farw fore Llun.
Enillodd Plumb bencampwriaethau Ewrop a’r Byd a nifer o bencampwriaethau cenedlaethol yn ystod ei yrfa.
Dywedodd ei frawd ei fod e wedi graddio fel peiriannydd mecanyddol o Brifysgol Portsmouth cyn mentro i fyd y campau.
‘Syfrdanol’
Dywedodd ei frawd, Roland: “Cafodd Howie effaith fawr ar ein bywydau ni ac roedd ganddo fe nifer o ffrindiau da o amgylch y byd.
“Mae nifer y negeseuon o gydymdeimlad rydyn ni wedi’u derbyn wedi bod yn syfrdanol ac mae’n dyst i’w boblogrwydd a’i gyflawniadau.
“Mae angen amser arnon ni i ddod i delerau â’r digwyddiad trasig hwn ac rydym yn gofyn am breifatrwydd ar hyn o bryd.”
Roedd Howard Plumb hefyd yn aelod o glwb seiclo lleol lle cwblhaodd e nifer o rasys cenedlaethol gan gynnwys y Tour of Wessex, ras End to End yn Ynys Manaw a rasys amrywiol yn Ffrainc, Yr Eidal a Gwlad Belg.
Mae’n gadael partner a’i rieni.
‘Dawnus’
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Gychod Hwylio Brenhinol eu bod nhw’n “drist iawn” o glywed am ei farwolaeth.
“Roedd Howard yn syrffiwr gwynt dawnus a gynrychiolodd ei wlad yng Ngemau Olympaidd 1996, sef y lefel uchaf.
“Fe fydd yn cael ei gofio am ei gymeriad oedd wedi’i wneud yn ddyn hoffus iawn i bawb wnaeth gyfarfod ag e ac fe wnaeth ei angerdd am syrffio gwynt cystadleuol ei arwain at gamp gorfforol arall, sef seiclo, ac roedd e wrth ei fodd.
“Fe fydd y rhai y daeth e i gyswllt â nhw yn gweld ei eisiau’n fawr.”
Mae dyn 54 oed o Sweden wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o yrru heb gymryd gofal priodol.