Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi galw am sefydlu tîm pêl-droed Prydain Fawr yn sgil siom i Loegr yng Nghwpan y Byd ym Mrasil.
Daw sylwadau Laurence Robertson ar ôl i Loegr orffen ar waelod eu grŵp gydag un pwynt yn unig.
Dywed Robertson fod timau cenedlaethol ar wahân i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfyngu ar obeithion y pedair gwlad o gael llwyddiant mewn cystadlaethau rhyngwladol.
Ar ben hynny, meddai, mae rhai chwaraewyr o safon fyd-eang yn colli’r cyfle i chwarae ar y lefel uchaf.
Yn eu plith mae asgellwr Cymru, Gareth Bale sydd eisoes yn chwarae ar y lefel uchaf sydd ar gael i’w glwb Real Madrid.
Dydy Cymru ddim wedi cystadlu yng Nghwpan y Byd ers 1958, y tro diwethaf i’r pedair gwlad ymddangos yn yr un Cwpan y Byd.
Dydy Gogledd Iwerddon ddim wedi ymddangos yng Nghwpan y Byd ers 1986, a’r tro diwethaf i’r Alban gyrraedd y rowndiau terfynol oedd 1998.
Cafodd tîm Prydain ei sefydlu ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, ond dywedodd Cymdeithasau Pêl-droed Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon nad oedden nhw’n awyddus i wneud y trefniant yn un parhaol.
Roedden nhw’n bryderus, er gwaethaf sicrwydd gan Fifa, y byddai’n peryglu eu statws fel timau annibynnol.
Wrth gyflwyno’i ddadl yn San Steffan y bore ma, dywedodd mai Prydain yw’r unig “genedl” lle mae mwy nag un tîm cenedlaethol yn cystadlu.