Bydd tîm pêl-droed Abertawe’n teithio i Gasnewydd ar gyfer gêm yn rownd gyntaf Cwpan Carabao.

Taith i Northampton sydd gan Gaerdydd.

Mae disgwyl i’r gemau gael eu cynnal ar Fedi 5.

Ond gallai rhai gemau gael eu symud i Awst 31 yn sgil y ffenest gemau rhyngwladol.

Dydy Casnewydd ac Abertawe ddim wedi herio’i gilydd mewn gêm gystadleuol ers 2006, pan enillodd yr Elyrch o 3-1 yng Nghwpan FA Lloegr.