Mae’r gêm griced rhwng Morgannwg a Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd yn Nhlws Bob Willis wedi gorffen yn gyfartal, ar ôl i’r sir Gymreig frwydro’n galed ar y diwrnod olaf.

Roedden nhw’n 23 heb golli wiced ar ddechrau’r diwrnod olaf, gan fatio am weddill y dydd i orffen ar 197 am wyth ac fe roddodd Swydd Gaerloyw y gorau i geisio’r fuddugoliaeth gyda 13 o belawdau’n weddill, pan oedd Morgannwg ar y blaen o 132 o rediadau yn eu hail fatiad.

Roedd hyn yn golygu na fyddai gan yr ymwelwyr yn agos at ddigon o amser i gwrso’r nod.

Wrth i Forgannwg lithro i 138 am wyth – blaenoriaeth o 73 – sgoriodd y capten Chris Cooke 59 heb fod allan ar ôl batio am bedair awr a hanner, ac fe gafodd ei gefnogi gan Timm van der Gugten ben arall y llain, oedd wedi sgorio 30 heb fod allan.

Manylion y diwrnod olaf

Roedd Morgannwg yn 23 heb golli wiced ar ddechrau’r diwrnod olaf – 42 o rediadau ar ei hôl hi.

Collodd y sir Gymreig ddwy wiced yn gynnar yn y bore heb fod wedi ychwanegu’r un rhediad at eu sgôr dros nos.

Cafodd Charlie Hemphrey ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Matt Taylor, cyn i’r un bowliwr fowlio Kiran Carlson.

Ychwanegodd Nick Selman a Billy Root 26 am y drydedd wiced cyn i George Hankins ddal Root yn gelfydd yn y slip, yn isel ag un llaw i’w ochr dde, oddi ar fowlio David Payne.

Roedd angen 16 yn rhagor ar Forgannwg bryd hynny i osgoi colli o fatiad, ond fe wnaeth Selman a’r capten Chris Cooke fatio’n bwyllog, wrth i’r capten daro hanner canred (59 – sgôr gorau’r gêm) oddi ar 110 o belenni, gan gynnwys naw pedwar.

Ond tarodd Ryan Higgins goes Selman o flaen y wiced am 55, oddi ar belen ola’r bore cyn i’r glaw ddod.

Yn fuan ar ôl te, collodd Morgannwg Tom Cullen pan gafodd ei fowlio gan Matt Taylor, cyn i Payne waredu Dan Douthwaite, wedi’i ddal yn y slip gan Hankins, a Graham Wagg, a gafodd ei ddal ag un llaw gan y wicedwr Gareth Roderick.

Batio pwyllog

Roedd y gêm yn dal o blaid Swydd Gaerloyw bryd hynny, a’r sgôr yn 121 am saith.

Ond wynebodd Kieran Bull 47 o belenni gan sgorio saith cyn cael ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Graeme van Buuren.

Erbyn amser te, roedd Cooke heb fod allan ar 38, gyda Timm van der Gugten newydd ddod i’r llain ac fe ychwanegon nhw 61 am y nawfed wiced wrth i’r gêm ddirwyn i ben yn gynnar.

Gweddill y gêm

Gêm oedd yn gweddu i’r bowlwyr oedd hon yn y pen draw, wrth i Payne orffen gydag wyth wiced yn yr ornest.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 116 yn eu batiad cyntaf, gyda’r bowliwr cyflym llaw chwith yn eu rhoi nhw o dan bwysau o’r cychwyn cyntaf.

Fe gafodd ei gefnogi gan Josh Shaw, a gipiodd dair wiced, gyda Dan Douthwaite (30 heb fod allan) yn brif sgoriwr Morgannwg mewn batiad siomedig.

181 oedd cyfanswm batiad cyntaf Swydd Gaerloyw, gyda Ryan Higgins yn brif sgoriwr gyda 48, a dim ond Tom Lace (42) a van Buuren (32) oedd wedi gwneud unrhyw fath o gyfraniad gwerthfawr fel arall.

Roedd tair wiced i Graham Wagg, tra bod Marchant de Lange, Timm van der Gugten a Kieran Bull wedi cipio dwy yr un.

Roedd Morgannwg, felly, yn wynebu cryn frwydr i achub yr ornest, ond fe fyddan nhw’n ddiolchgar i’r capten Cooke am ddal ati yn y pen draw ac i van der Gugten am ei gefnogaeth amyneddgar ben arall y llain.