Mae Danny Ward wedi dychwelyd i Glwb Pêl-droed Huddersfield yn rhad ac am ddim ar ôl iddo adael Caerdydd ar ddiwedd y tymor.

Chwaraeodd yr ymosodwr 28 oed mewn 140 o gemau i’r Terriers rhwng 2011 a 2015, ac mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd.

Mae Carlos Corberan, prif hyfforddwr Huddersfield, yn dweud ei fod e’n “chwaraewr diddorol iawn â llawer o brofiad i’r clwb hwn a’r gynghrair hon”.

Mae’n dweud ymhellach ei fod e’n “uchelgeisiol iawn” a bod ganddo fe “rywbeth pwysig i’w roi i’r cefnogwyr”, a’i fod e’n cynnig “llawer o opsiynau” i’r clwb.

“Mae e’n gwneud rhediadau deallus iawn, bob amser yn chwilio am yr opsiwn hir a bydd e’n ein helpu ni i adeiladu oherwydd mae e’n dda gyda’r bêl wrth redeg yn ddwfn.”