Cael a chael yw hi i dîm criced Morgannwg ar ddiwedd trydydd diwrnod eu gêm pedwar diwrnod yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Nhlws Bob Willis yng Nghaerdydd.
Ar ôl bowlio’r ymwelwyr allan am 181 yn eu batiad cyntaf, mae’r sir Gymreig yn 23 heb golli wiced.
Y bowliwr cyflym llaw chwith David Payne wnaeth y niwed wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan mewn 59.3 pelawd, a hwnnw’n cipio pum wiced am 31 mewn 17 pelawd.
Mae e bellach wedi cipio 58 wiced mewn gemau yn erbyn y sir Gymreig dros y naw mlynedd diwethaf.
Manylion
Dechreuodd Morgannwg y diwrnod ar 80 am bump ac roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion yn erbyn sawl bowliwr o’r dechrau’n deg, gyda Josh Shaw yn cipio tair wiced am 13 mewn 9.3 pelawd.
Yn y pen draw, cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 116, er i Dan Douthwaite frwydro’n galed i orffen heb fod allan ar 30.
Dechreuodd bowlwyr Morgannwg yn gryf, wrth i gapten Swydd Gaerloyw, Chris Dent gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio’r Iseldirwr Timm van der Gugten yn ail belawd y batiad.
Dilynodd Ben Charlesworth yn fuan wedyn ar ôl ei chael hi’n anodd canfod trywydd y bêl, ac fe wnaeth Graham Wagg daro’i goes o flaen y wiced am wyth oddi ar 67 o belenni.
Adeiladodd Graeme van Buuren bartneriaeth addawol o 43 gyda Tom Lace, batiwr newydd y sir sy’n chwarae yn ei gêm gyntaf ers symud o Middlesex.
Ond cafodd van Buuren ei fowlio gan van der Gugten ar ôl sgorio 32.
Roedd yr ymwelwyr, felly, yn 89 am dair erbyn amser te, a ddaeth yn gynnar yn sgil y glaw – erbyn hynny, roedd Lace heb fod allan ar 37.
Fe wnaeth yr egwyl fwy o les i Forgannwg na’u gwrthwynebwyr, wrth iddyn nhw gipio pedwaredd wiced pan gafodd George Hankins ei ddal yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Wagg.
Roedd hwnnw wedi dychwelyd i fowlio ar ôl i van der Gugten ddatgymalu ei fys a chael ei gludo i’r ysbyty.
Roedd Ryan Higgins a Lace, oedd wedi sgorio 143 – ei sgôr gorau erioed – yn erbyn Morgannwg ar fenthyg i Swydd Derby y tymor diwethaf, yn edrych yn gyfforddus cyn i Wagg waredu Higgins, a gafodd ei ddal yn isel gan Cooke.
Erbyn hynny, roedd y sgôr yn gyfartal, ond parhau i golli wicedi wnaeth yr ymwelwyr, wrth i Gareth Roderick gael ei ddal gan Cooke wrth ergydio’n wyllt yn erbyn Dan Douthwaite.
Parhau i gylchdroi’r bowlwyr wnaeth Morgannwg, ac fe dalodd y dacteg ar ei chanfed wrth i Marchant de Lange gipio wiced George Scott i roi daliad arall i Cooke wrth i’r bêl godi’n siarp.
Cafodd Higgins ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan de Lange oddi ar fowlio’r troellwr Kieran Bull gyda’r sgôr erbyn hynny’n 173 am wyth, a chwympodd y nawfed wiced ar 181 pan gafodd Josh Shaw ei ddal yn isel yn y slip gan Selman oddi ar fowlio de Lange.
Daeth y batiad i ben pan gafodd David Payne ei ddal gan Bull oddi ar ei fowlio’i hun.
181 oedd cyfanswm Swydd Gaerloyw, felly, oedd yn golygu blaenoriaeth batiad cyntaf o 65.
Ail fatiad Morgannwg
Batiodd Morgannwg yn ddigon amddiffynnol yn eu 14 pelawd cyn diwedd y dydd.
Mae’r agorwyr Nick Selman a Charlie Hemphrey yn dal wrth y llain, ac maen nhw wedi llwyddo i leihau ryw fymryn ar flaenoriaeth Swydd Gaerloyw i sicrhau bod y gêm yn debygol o orffen yn gyffrous ar y diwrnod olaf.