Mae Chris Froome wedi gorfod tynnu allan o’r Tour de France ar ôl ei drydydd wrthdrawiad o fewn dau ddiwrnod.
Fe gychwynnodd bumed cymal y ras, oedd yn ymlwybro o Ypres i Arenburg Porte du Hinau, yn y seithfed safle ond bu’n rhaid iddo dynnu allan a’r ôl disgyn ac anafu ei arddwrn chwith.
Roedd wedi anafu ei glun a’i arddwrn ar ôl disgyn ym mhedwerydd cymal y ras ddoe hefyd.
Cafodd ei gludo o’r ras gan gar Tîm Sky.
Froome oedd prif seiclwr Tîm Sky, ac roedd yn ceisio adennill ei deitl fel pencampwr y Tour, wedi iddo ennill y ras y llynedd.
Yn absenoldeb Froome mae’n debygol y bydd y Cymro Geraint Thomas yn un o brif seiclwyr Sky am weddim y Tour.
Bu’n rhaid i Brydeiniwr arall, Mark Cavendish o dîm Omega Pharma-Quick Step, hefyd dynnu allan o’r ras ar ôl anafu ei ysgwydd mewn gwrthdrawiad yn y cymal cyntaf.