Roedd Siroedd Llai Cymru un wiced yn brin wrth anelu am fuddugoliaeth yn erbyn Cernyw yn Truro yn y Bencampwriaeth ddoe.

Roedd angen pump rhediad ar Gernyw ac un wiced ar Siroedd Llai Cymru pan ddaeth y glaw i roi terfyn ar yr ornest a orffennodd yn gyfartal.

Cafodd Siroedd Llai Cymru eu bowlio allan am 235 yn eu batiad cyntaf wrth i Greg Holmes – mab y diweddar Geoff a chwaraeodd i Forgannwg – daro 104 mewn batiad oedd yn cynnwys 12 pedwar ac un chwech.

Seren y bowlio i Gernyw yn y batiad cyntaf oedd Neil Ivamy, a gipiodd bedair wiced am 69, tra bod Shakil Ahmed wedi cipio 3-59.

Cafodd Cernyw eu bowlio allan am 142 wrth i Aneurin Norman gipio pedair wiced am 37, tra bod Nick Davies wedi cipio tair wiced am 33.

Tarodd Aneurin Norman 75 yn yr ail fatiad wrth i Siroedd Llai Cymru gau’r batiad ar 197-9, wedi i Neil Ivamy gipio pum wiced am 91, gan roi nod o 291 i Gernyw.

Tarodd Jacob Libby 112 tra bod Christian Purchase wedi taro 101 wrth i Gernyw gyrraedd 286-9 cyn i’r glaw ddod.

Roedd Aneurin Norman wedi cipio 3-53 tra bod Nick Davies wedi cipio 3-94.

Mae Siroedd Llai Cymru’n bedwerydd yn y Bencampwriaeth, naw pwynt ar y blaen i Gernyw sy’n bumed.