Dai Greene
Y rhedwr 400 metr dros y clwydi, Dai Greene o Lanelli oedd yn fuddugol yn Grand Prix Athletau Hwngari neithiwr.
Cyrhaeddodd Greene y llinell derfyn mewn 49.89 eiliad, gan guro pencampwr y byd Jehue Gordon o Trinidad a Tobago o drwch blewyn yn y ras yn Szekesfehervar ger Budapest.
Hon oedd ras gyntaf Greene yn ôl ar y trac ers 11 mis, yn dilyn dwy lawdriniaeth i drin hernia.
Bydd Greene yn amddiffyn ei deitl 400 metr dros y clwydi pan fydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow fis nesaf, ac fe fydd yn cael cyfle i amddiffyn ei deitl Ewropeaidd hefyd.