Cefnogwyr Brasil methu credu'r peth (llun: AP/Frank Augstein)
Pan fydd cyfrolau hanes Cwpan y Byd yn cael eu hysgrifennu yn y degawdau i ddod fe fydd gan noson 8 Gorffennaf ym Melo Horizonte le amlwg iawn.
Neithiwr fe dorrwyd sawl record – nid yn unig hon, o 7-1, oedd y fuddugoliaeth fwyaf erioed mewn rownd gynderfynol, ond hon oedd y golled fwyaf yn hanes Brasil.
Fe ddigwyddodd hyn i neb llai na enillwyr pum Cwpan y Byd, cewri’r byd pêl-droed rhyngwladol, gwlad sydd yn byw a bod y bêl gron ac oedd yn cynnal ei thwrnament cyntaf ers 64 mlynedd.
Hon oedd eu cyfle i wneud yn iawn am 1950, pan oedd disgwyliadau mawr ar y tîm cartref i ennill Cwpan y Byd dim ond iddyn nhw golli’n annisgwyl yn y gêm derfynol i Uruguay.
Yn lle hynny, mae’r wlad yn deffro’r bore yma gyda mwy fyth o fwganod.
Nid colled yn unig oedd hon, ond crasfa. Cywilydd llwyr. I wlad sydd heb golli gêm gystadleuol gartref ers 1975, roedd y sioc yn un gwbl anghyfarwydd.
Ac nid yn unig i Frasiliaid. Roedd y byd i gyd yn gegrwth wrth wylio’r Almaenwyr yn eu rhwygo i ddarnau, gyda’r gêm drosodd fel gornest o fewn llai na hanner awr a’r Brasiliaid yn gorfod dioddef awr arall o chwarae cyn y chwib olaf.
I fod yn deg i’r Almaen, roedden nhw’n wych. Ar ôl deg munud agoriadol ychydig yn flêr gan y ddau dîm fe ffeindiodd Thomas Muller le yn y cwrt cosbi o gic gornel a tharo ergyd syml i’r rhwyd.
Os nad oedd hynny yn y sgript i Frasil, roedd gwaeth i ddod, a hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf daeth y gwallgofrwydd.
Pedair gôl mewn chwe munud, i gyd yn mynd i’r Almaen. Miroslav Klose, dwy i Toni Kroos ac yna un i Sami Khedira, a phob un yn gôl gymharol syml wrth i’r Almaenwyr basio’r bêl o gwmpas y cwrt cosbi’n anhunanol cyn manteisio ar eu cyfleoedd.
I rwbio halen yn y briw, honno oedd 16eg gôl Klose yn hanes Cwpan y Byd, record newydd – ac yntau’n cipio’r clod hwnnw oddi ar Ronaldo, seren Brasil gynt.
Roedd canlyniad y gêm wedi’i setlo cyn yr egwyl, a’r unig beth oedd ar ôl i benderfynu oedd maint y grasfa.
Rhoddodd Brasil gynnig arni ar ddechrau’r ail hanner, gyda Manuel Neuer yn arbed yn wych oddi wrth Oscar a Paulinho, ond daeth Andre Schurrle ymlaen fel eilydd i’r Almaen ac ychwanegu dwy arall.
Byddai’n greulon galw gôl hwyr Oscar i Frasil yn gôl gysur, achos doedd dim gronyn o hynny i’w gael i’r dynion mewn melyn wrth i’r chwib olaf chwythu.
Pigion eraill
Fe ddylen nhw fod wedi rhagweld beth oedd am ddod. Cyn y gêm, fe drydarodd Piers Morgan i ddweud y byddai David Luiz yn arwain Brasil i fuddugoliaeth a chanmol ei angerdd a’i ymroddiad.
Hwn oedd yr un boi a ddywedodd y dylai Arsenal gael gwared ag Aaron Ramsey’r haf diwethaf, gyda llaw.
Roedd hynny’n golygu ond un peth wrth gwrs – sef y byddai Luiz yn chwarae gêm fwyaf trychinebus o sâl ei yrfa, colli’i ben yn llwyr, a gadael i’w amddiffyn ildio saith. Da iawn Piers.
Dydi’r trydarfyd ddim yn un i aros yn segur pan mae pethau fel hyn yn digwydd, ac erbyn diwedd y gêm roedd yr hashnod #ThingsMoreLikelyThanBrazilWinningTheWorldCup yn trendio.
Ymysg yr awgrymiadau oedd bod y sêl yn DFS yn cau, bod Luis Suarez yn troi’n llysieuwr, a Hodor yn eistedd ar yr Iron Throne (un i chi Game of Throners).
Wel, ac wrth gwrs, Lloegr yn ennill Cwpan y Byd.
Doedd y gwawdio ddim wedi’i gyfyngu i Twitter ‘chwaith – ar ôl i wefan ‘cynnwys i oedolion’ Pornhub drydar i ofyn wrth bobl beidio â llwytho fideos o uchafbwyntiau’r gêm i’w safle.
Mae’n ymddangos fod nifer o ddefnyddwyr y wefan wedi llwytho fideos o’r fath o dan deitlau yn awgrymu fod un ar ddeg o Almaenwyr wedi, wel, cael hwyl â’r Brasiliaid.
Doedd hyd yn oed y wefan methu osgoi’r temptasiwn o ymuno yn y tynnu coes – gan fynnu nad oedden nhw eisiau rhagor o fideos am bod eu categori ‘cywilyddu’n gyhoeddus’ yn llawn yn barod.
‘Da chi’n gwybod fod y sgôr yn un hynod pan mae’n rhaid i’r llythrennau ddod allan i gadarnhau’n union faint o goliau gafodd eu sgorio – fel fu’n rhaid gwneud neithiwr.
A phan mae cymaint â hynny o goliau’n cael eu sgorio mae wastad yn handi cael uchafbwyntiau cryno o’r gêm – dyma’r ornest mewn deg eiliad:
Gêm heno
Yr Ariannin v Yr Iseldiroedd (9.00yh)