Lewis Hamilton
Mae’r gyrrwr F1 Lewis Hamilton, oedd yn fuddugol yn Grand Prix Prydain yn Silverstone ddydd Sul, wedi cwestiynu cenedligrwydd ei gyd-yrrwr Nico Rosberg.

Mewn cyfweliad, cafodd Hamilton ei holi am obeithion Rosberg ar gyfer ei “ras gartref” yn yr Almaen ar Orffennaf 20.

Wrth ateb, dywedodd Hamilton: “I fod yn onest, dydy Nico erioed wedi bod yn Yr Almaen felly dyw hi ddim yn ras gartref iddo fe.”

Ymhelaethodd Hamilton trwy ddweud bod Rosberg yn arfer cystadlu mewn gwib-gartio o dan faner Monaco, lle cafodd ei fagu’n faban pedwar mis oed.

Cafodd Rosberg ei eni yn Wiesbaden yn Yr Almaen, ond cafodd ei dad Keke, oedd hefyd yn yrrwr F1, ei eni yn Y Ffindir.

Cyfaddefodd nad oedd yn gymaint o Almaenwr ag ydyw Hamilton yn Brydeiniwr ond ei fod yn ystyried ei hun “100% yn Almaenwr”.

Hamilton, sydd o dras Affro-Caribî ar ochr ei dad, yw’r gyrrwr F1 croenddu cyntaf.

Ychwanegodd Rosberg: “Gall unrhyw un farnu fel fynnon nhw.”

Gallwch ddarllen adroddiad Phil Kynaston o ras Grand Prix Prydain yma.