Mae Piers Morgan wedi cytuno i roi £5,000 i elusennau lleol yn Lerpwl yn sgil colli bet am ganlyniad rownd gynderfynol Cwpan y Byd rhwng Brasil a’r Almaen.

Roedd y newyddiadurwr wedi darogan y byddai Brasil yn trechu’r Almaen, ond yr Almaenwyr oedd yn fuddugol neithiwr wrth iddyn nhw chwalu’r gwrthwynebwyr o 7-1.

Yn dilyn y bet, gofynnodd y newyddiadurwr wrth y pêl-droediwr Joey Barton i ba elusen yr hoffai i’r arian fynd.

Penderfynodd Barton y dylai’r arian gael ei rannu rhwng Ysbyty Plant Alder Hey ac ymgyrch Hillsborough sy’n cefnogi teuluoedd y 96 o gefnogwyr Lerpwl fu farw yn y trychineb yn y stadiwm yn Sheffield yn 1989.

Mae Barton wedi cynnig ail gyfle i Morgan adfer ychydig o hunan-barch trwy ddarogan canlyniad yr ornest arall yn y rownd gyn-derfynol rhwng Yr Ariannin a’r Iseldiroedd heno.

  1. Piers Morgan ✔ @piersmorgan

Right, Le Pitbull @Joey7Barton – name your charity. And a £5k cheque will be on its way. You called it right, I…….did not!

Joseph Barton ✔ @Joey7Barton

Follow

@piersmorgan a 50/50 split if you would be so kind £2500 to @AlderHeyCharity and £2500 to @HJC_Official Thanks OldBoy #tallyho #easymoney

11:14 PM – 8 Jul 2014