Lewis Hamilton
Cipiodd Lewis Hamilton fuddugoliaeth gyfforddus dros y penwythnos yn Grand Prix Prydain i gau’r bwlch ar Nico Rosberg ar frig Pencampwriaeth y Byd F1.

Rosberg ddechreuodd ar flaen y grid, ond ar ôl i Hamilton frwydro’i ffordd fyny o chweched bu’n rhaid i Rosberg orffen ei ras yn gynnar oherwydd problem gyda gerbocs y car.

Doedd dim diffyg drama yn y ras chwaith, gyda Felipe Massa a Kimi Raikkonnen yn cael damwain o fewn y lap gyntaf.

Yn ffodus ni chafodd y ddau unrhyw anafiadau gwael, ond bu’n rhaid stopio’r ras am bron i awr wrth i’r llanast gael ei glirio.

Phil Kynaston sydd yn cloriannu’r penwythnos.

Rhagbrawf

Nid am y tro cyntaf yn 2014 cafodd y rhagbrawf ei heffeithio gan law, ac mae hynny bob tro’n creu sioc.

Cafodd y ddau Ferarri eu diarddel ar ôl y sesiwn gyntaf ar ôl cael eu dal allan gan y tywydd newidiol, yn ogystal â’r ddau Williams gipiodd y rhes flaen yn Awstria’r tro diwethaf (mae’n rhaid bod Massa dal heb ddod dros fy ngweld i’r penwythnos diwethaf!).

Ar y penwythnos cyntaf ers i’r tîm gael ei werthu gan Tony Fernandes i grŵp o fuddsoddwr dirgel, byddai’r ddau Caterham yn cychwyn ar y rhes olaf, tu ôl i Pastor Maldonado a fethodd ddarparu’r litr gorfodol o danwydd i’r stiwardiaid ar ddiwedd y sesiwn.

Er iddo fynd drwodd i Q2, ni chymerodd Adrian Sutil ran yn y sesiwn wrth iddo golli rheolaeth ar ei gar yng nglaw’r sesiwn gyntaf. Mewn dechrau cryf iawn i Marussia, ymysg trafferthion eraill, roedd amseroedd Bianchi a Chilton yn ddigon da ar gyfer 12fed a 13eg (er i’r Prydeiniwr orfod cymryd cosb pum safle yn ei ras gartref am newid gerbocs).

Fel Q1, daeth Q2 i ben gyda damwain Sauber, gyda Gutierrez y tro yma’n taro’r wal. Gyda’r glaw yn drwm ar ddiwedd y sesiwn roedd hi’n edrych fel rhes flaen Mercedes arferol.

Ond wrth i’r glaw ostegu, fe sychodd sector ola’r lap, gyda Hamilton yn cael ei wthio i lawr i chweched y tu ôl i Vettel, Button (gyda’i helmed binc, er cof am ei dad), Hulkenberg a Magussen.

Gwers i Hamilton chwarae i’r chwiban. Gyda bwlch da yn y bencampwriaeth eisoes, roedd Rosberg yn edrych yn dda iawn gyda’r amser cyflymaf.

Y ras

Yn dangos yn bosib nad oedd wedi arfer cychwyn mor isel ers ei ddyddiau Minardi, ni stopiodd Alonso yn ei slot grid, gan gael cosb yn ddiweddarach am gychwyn y ras hyd hanner car ymhellach ymlaen na ddylai fod wedi gwneud. Ond dyna oedd y lleiaf o’r trafferthion a achoswyd gan geir cyflym yn cychwyn o’r cefn.

Cafodd Kimi Raikkonen ei wthio o’r trac ar gychwyn y ras, ac wrth iddo geisio ailymuno â’r trac cyn gynted â phosib fe redodd y car dros ddraen, gan daflu’r car yn ddi-reolaeth i mewn i’r rhwystr, cyn i’r car droelli a dod i orffwys ar ochr arall y trac.

Roedd Massa wedi cael dechrau gwael gyda phroblemau ‘clutch’, ac roedd yn cyrraedd safle’r ddamwain yn union fel oedd Raikkonen yn saethu ar draws y trac.

Dangosodd sgil gyrru gwych i droelli ei gar yn bwrpasol i osgoi Raikkonen. Er gwaethaf hyn, roedd ei 200fed ras ar ben yn y fan a’r lle. Roedd Max Chilton hefyd yn lwcus i beidio cael rwber o deiar Kimi yn taro ei ben.

Ar ôl eiliadau o gyffro heb ei ail, roedd awr o ddistawrwydd wrth i’r ras gael ei stopio i drwsio’r rhwystr Armco a oedd wedi cael difrod o ddamwain 47G Raikkonen.

Ailddechrau

Cafodd y ras ei ailddechrau tu ôl i’r car diogelwch yn nhrefn y ceir ar bwynt y ddamwain. O flaen y ddrama, roedd Button, Magussen a Hamilton wedi pasio Vettel, tra bod Bottas i fyny i nawfed.

Yn ddigon buan oedd Hamilton y tu ôl i’w gyn gyd-yrrwr. Gan sylweddoli nad efo’r Mercedes oedd ei ras o yn debyg o fod fe adawodd Button i Hamilton ei basio yn ddigon diffwdan (hyn ar benwythnos ble roedd Button wedi cyfaddef ei fod am y tro cyntaf eisiau gyrrwr arall – sef Hamilton – ennill y ras i blesio’r dorf gartref).

Roedd Lewis rŵan yn rhydd ar ôl camgymeriad dydd Sadwrn i herio Rosberg.

Ar lap 11, i’r gwrthwyneb o’u damwain ym Mahrain, fe ddaeth Gutierrez i mewn i gornel yn rhy gyflym a thaflu car Maldonado oddi ar ei olwynion.

Wrth iddi ddechrau edrych fel petai rasio agos rhwng y ddau Mercedes – fel ym Mahrain – fe arafodd Rosberg. Roedd wedi cwyno ers ychydig fod newid gêr ddim fel y dylai fod.

Ac roedd yn iawn, wrth i gerbocs Rosberg dorri, gan olygu y gallai Hamilton ymlacio at ddiwedd y ras i gymryd ei ail fuddugoliaeth ym Mhrydain, gyda bwlch mor fawr y tu ôl iddo.

Wedi i Lewis ddioddef yr holl drafferthion hyd yma, doedd hi ddim ond yn deg fod Rosberg yn cael problemau.

Brwydro’n parhau

I wneud i fyny am hyn cafodd Alonso a Vettel ras llawn cyffro eu hunain a barhaodd am y pymtheg lap gyda’r naill yn cwyno bod y llall yn mynd tu hwnt i ffin y trac i amddiffyn/ymosod (roedd Alonso wedi cael rhybudd am hyn yn gynt yn y ras).

Gyda symudiadau olwyn-i-olwyn a oedd yn para am nifer o gorneli, yr Almaenwr fu’n fuddugol yn yr ornest yn y pen draw.

Gydag un Prydeiniwr ymhell ar y blaen roedd y dorf i gyd tu ôl i Button wrth iddo  ef geisio cau’r bwlch ar Ricciardo i gymryd y trydydd safle ar benwythnos #PinkforPapa.

Llwyddodd y gwr o Awstralia i ddal ymlaen i’r safle podiwm o 0.9 eiliad yn unig, ac fe gafodd Valtteri Bottas ei ganlyniad gorau eto wrth orffen yn ail.

Mae’r penwythnos hynod gyffrous yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r bencampwriaeth gyda phedwar pwynt yn unig yn gwahanu’r Mercedes bellach. Y newid arall yw bod Vettel yn disgyn i chweched y tu ôl i Bottas.

Bydd Rosberg yn gobeithio ymestyn ei fantais gul y tro nesaf yn ei ras gartref o, ar gwrs Hockenheim, yn yr Almaen.