Michu
Mae’n ymddangos yn fwy tebygol y bydd ymosodwr Abertawe, Michu, yn gadael yn ystod yr haf ar ôl iddo beidio â theithio gyda’r garfan i’r Unol Daleithiau.

Yn ôl adroddiadau’r BBC mae hynny oherwydd ei fod mewn trafodaethau â Napoli o’r Eidal ynglŷn â symud yno.

Un sydd wedi teithio gyda’r garfan i’r UDA fodd bynnag yw Ben Davies, a hynny er bod Tottenham yn parhau mewn trafodaethau i arwyddo’r cefnwr chwith.

Cafodd Michu dymor anodd y llynedd gyda’r Elyrch gydag anafiadau cyson, gan sgorio dwy gôl yn unig.

Roedd hynny ar ôl iddo sgorio 22 gôl yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb ar ôl arwyddo o Rayo Vallecano yn 2012 am £2.2m.

Cyn i’r garfan adael am yr Unol Daleithiau, dywedodd rheolwr Abertawe Garry Monk y byddai’n rhaid i’r clwb gynnal trafodaethau os oedd cynnig call yn cael ei wneud a bod y chwaraewr yn awyddus i adael.

Ar ôl ei dymor cyntaf disglair roedd sôn fod clybiau ar draws Ewrop yn barod i dalu hyd at £20m amdano, ond mae’n annhebygol iawn y byddai Abertawe’n cael ffi sydd yn agos i hynny bellach.

Mae’r clwb dal mewn trafodaethau â Tottenham ynglŷn â gwerthu Ben Davies, gyda’r Elyrch mae’n debyg ystyried y Cymro werth o leiaf £10m.

Mae adroddiadau hefyd fod y clybiau eto i ddod i gytundeb oherwydd bod Abertawe eisiau cael y chwaraewr canol cae Gylfi Sigurdsson o Spurs fel rhan o’r fargen.

Fe dreuliodd Sigurdsson gyfnod llwyddiannus tu hwnt ar fenthyg yn Abertawe yn 2012 pan oedd y tîm o dan reolaeth Brendan Rodgers.

Besic ar ei ffordd?

Yn y cyfamser, mae adroddiadau o Fosnia yn awgrymu bod Abertawe’n agos at gwblhau trosglwyddiad y chwaraewr ifanc Muhamed Besic o Ferencvaros am tua £4m.

Roedd Besic yn rhan o garfan Bosnia-Herzegovina yng Nghwpan y Byd Brasil eleni, gan chwarae ym mhob un o’u tair gêm grŵp.

Yn ôl gwefan newyddion Klix mae’r chwaraewr, sydd yn medru chwarae yng nghanol cae yn ogystal â’r amddiffyn, yn agos at arwyddo cytundeb o dair blynedd gyda’r Elyrch.

Roedd Caerdydd, Everton a West Ham, yn ogystal â Celta Vigo a Sevilla o Sbaen, ar ôl y gŵr 21 oed yn ôl yr adroddiadau.

Petai’n arwyddo i Abertawe byddai’n gyfle i Besic ymgyfarwyddo’i hun â Chymru a rhai o’u chwaraewyr cyn fis Hydref, pan fydd Bosnia-Herzegovina’n ymweld â Chaerdydd ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2016.