Dim ond pedair gêm sydd yn weddill, felly, a hynny ar ôl dros dair wythnos yn gwledda ar bêl-droed yng Nghwpan y Byd Brasil.

Mae gennym ni ddwy gêm gyffrous iawn ar y gweill heno a nos fory hefyd, wrth i Frasil herio’r Almaen a’r Ariannin chwarae’r Iseldiroedd i weld pwy fydd yn ennill eu lle yn y ffeinal yn y Maracana ddydd Sul.

Owain Schiavone, Iolo Cheung a Llywelyn Williams sydd yma heddiw i daro cip sydyn dros gemau’r wyth olaf a cheisio darogan pwy fydd yn llwyddiannus yn y rownd gynderfynol.

A fydd Brasil yn medru ymdopi heb Neymar a Thiago Silva? Yw’r Ariannin wedi stopio dibynnu cymaint ar Lionel Messi? Ydi’r Almaenwyr ddigon trefnus yn amddiffynnol? Fydd ymosodwr yr Iseldiroedd yn dechrau tanio unwaith eto?

Mae’r tri hefyd yn rhoi eu barn ar rai o bynciau trafod gemau’r wyth olaf – gan gynnwys penderfyniad dewr Louis van Gaal i daflu Tim Krul ar y cae ar gyfer ciciau o’r smotyn.