Mae Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad wedi cadarnhau na fydd y bocsiwr Ashley Brace yn cystadlu yn y Gemau yn Glasgow.

Daeth y cyhoeddiad wedi i’r Gymdeithas Focsio Ryngwladol [AIBA] benderfynu bod Ashley Brace, 23, yn anghymwys ar ôl iddi gystadlu ym Mhencampwriaeth Cic Focsio’r Byd yn 2013.

Mae Cymdeithas Focsio Cymru wedi derbyn y dyfarniad.

Dywedodd Brian Davies o Dîm Cymru eu bod nhw’n siomedig iawn.

Meddai: “Mae Ashley yn athletwr ifanc gwych gyda llawer o botensial. Mae Bocsio Cymru a Chyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru yn siomedig na fydd hi nawr yn cael y cyfle i gystadlu yn y Gemau mewn pythefnos.”

Bydd y Gemau yn cychwyn yng Nglasgow ar 23 Gorffennaf.