Iolo Cheung
Iolo Cheung fu’n gwylio gwrthwynebwyr Cymru yn yr hydref …
Mae Bosnia-Herzegovina a Gwlad Belg bellach wedi chwarae dwy gêm yr un yng Nghwpan y Byd, ond tra bod y Belgiaid yn dathlu lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth mae’r Bosniaid eisoes yn ffarwelio.
Fel cefnogwyr Cymru mae gennym ni dipyn o ddiddordeb yn sut mae’r ddau dîm yn gwneud, wrth gwrs, gan y byddwn ni’n wynebu’r ddau dîm yn yr hydref yn ein grŵp rhagbrofol Ewro 2016.
Bosnia fydd yn ymweld â Chymru gyntaf ym mis Hydref yn ail gêm yr ymgyrch, cyn i ni deithio i Frwsel ym mis Tachwedd.
Ond dydw i ddim yn meddwl bod dwy fuddugoliaeth i un tîm, a dwy golled i’r llall, yn adrodd y stori gyfan am gryfderau a gwendidau ein gwrthwynebwyr ni.
Bosnia yn fregus
Fe ddaeth hi’n amlwg o gychwyn y gêm rhwng Bosnia a Nigeria fod hon am fod yn gêm wahanol i’w gornest nhw yn erbyn yr Ariannin, fel ro’n i’n disgwyl.
Roedd y tempo’n llawer uwch o’r cychwyn, gyda Nigeria’n ymosod yn gynt ac yn fwy pwrpasol i lawr yr asgell a Bosnia’n edrych yn fwy bregus o’i gymharu â steil amyneddgar yr Ariannin o ymosod.
Oherwydd bod Bosnia angen bod yn fwy ymosodol yn erbyn Nigeria roedden nhw wedi gwthio mwy o chwaraewyr ymlaen i ymosod, ac er bod hyn yn golygu eu bod nhw’n fwy peryglus roedd hefyd yn gadael bylchau.
Roedd amddiffyn Bosnia yn enwedig yn edrych yn araf, ac felly dyma sut yr oedd Nigeria’n manteisio, wrth gael eu hasgellwyr chwim nhw i redeg tuag atynt gyda’r bêl.
Dyna sut crëwyd unig gôl y gêm, gydag Emmanuel Emenike’n gwibio heibio i gapten Bosnia Emir Spahic a chroesi ar gyfer gôl syml – mae Spahic yn daclwr cryf ond dydi o ddim yn foi sydyn a doedd o ddim yn hoff o wynebu’i ddyn un wrth un.
Pan fydd Cymru’n eu hwynebu nhw, fe fydd yn rhaid i Bale a’r asgellwyr eraill gofio hynny.
Roedd yna hefyd fylchau yng nghanol cae ar adegau, gyda Senad Lulic, Muhamed Besic ac Izet Hajrovic yn ddigon hapus i wthio ymlaen a chefnogi Miralem Pjanic ac Edin Dzeko.
Petai hynny’n digwydd yn erbyn Cymru, fe fyddech chi’n gobeithio bod Joe Allen a’i bartner yng nghanol cae yn medru helpu’r amddiffyn i ddelio â nhw, gan adael Ramsey i greu problemau i’r hen ben Misimovic wrth ymosod.
Ond gyda Bosnia’n fwy parod i ymosod yn erbyn Nigeria, fel y byddan nhw yn erbyn Cymru buasech chi’n amau, roedd Dzeko’n llawer mwy o fygythiad.
Ddwywaith yn yr hanner cyntaf fe ffeindiodd y bwlch mewn llinell amddiffyn oedd ddim yn syth a chael pas yn syth iddo – y tro cyntaf fe ddywedodd y llumanwr (yn anghywir) ei fod yn camsefyll, a’r ail waith fe arbedwyd ei ergyd yn dda.
Cafodd rhagor o gyfleoedd yn yr ail hanner hefyd, ac felly bydd rhaid i amddiffyn Cymru fod yn hynod o drefnus a pheidio gadael y bylchau yna os ydyn nhw am ei stopio.
Fel ôl nodyn, mae ‘na sôn rŵan fod rheolwr Bosnia, Safet Susic, am adael ei swydd fel rheolwr y tîm cenedlaethol ar ôl Cwpan y Byd – ond gan mai Cymru fydd ail gêm unrhyw reolwr newydd mae’n bosib na fydd wedi gwneud llawer o newidiadau erbyn hynny.
Gwlad Belg yn lwcus
Os oedd Bosnia’n anlwcus i golli eu dwy gêm hwy, yna mae’r Belgiaid yn lwcus hefyd fod ganddyn nhw chwe phwynt yn eu grŵp ar hyn o bryd.
Roedden nhw’n daclus gyda’r meddiant fel arfer yn erbyn Rwsia, ond pan ddaeth i greu cyfleoedd doedden nhw methu canfod ffordd drwy eu gwrthwynebwyr trefnus.
Roedd Dries Mertens yn edrych yn beryglus iawn yn yr hanner cyntaf, ac yn asgellwr llawn triciau sydd yn ddigon hapus i ddawnsio heibio i amddiffynwyr.
Marouane Fellaini oedd y targed yn yr awyr unwaith eto, ond mae’r tîm yn weddol dal ar y cyfan beth bynnag felly roedden nhw’n ddigon hapus i geisio chwarae peli hir ar adegau.
Fodd bynnag, roedd chwarae Fellaini fel canolwr cae ymosodol, yn ogystal â natur ymosodol naturiol Kevin de Bruyne, yn gadael Axel Witsel ar ben ei hun yn ceisio gwarchod yr amddiffyn weithiau.
Mae’n amlwg hefyd fod cefnwr chwith a dde yn safleoedd ble mae gan Wlad Belg drafferth – cafodd y cefnwr dde Toby Alderweireld brynhawn anghyfforddus iawn, does ganddo ddim llawer o gyflymder ac roedd yn flêr gyda’i daclo hefyd.
Byddai’n dda felly chwarae asgellwr fel Jonny Williams yn ei erbyn pan fydd Cymru’n herio Gwlad Belg (gan gymryd fod Bale ar y dde) er mwyn ceisio manteisio ar y gwendid hwnnw.
Mae asgellwyr Gwlad Belg (Hazard, Mertens a Mirallas) hefyd i gyd yn fwy o ymosodwyr na chwaraewyr canol cae, ac felly ddim mor barod i ddod nôl a helpu’r amddiffyn pan fydd eu gwrthwynebwyr yn ymosod.
Ond wrth gwrs, fel yn y gêm gyntaf, yr eilyddion yw cryfder Gwlad Belg, a phan ddaeth Origi a Mirallas ymlaen fe newidiodd y gêm, gyda’r chwaraewyr eraill hefyd yn dechrau tanio.
Felly fe fydd yn rhaid i Gymru fod yn barod i addasu’u tactegau nhw hefyd yn ystod y gêm os ydyn nhw am geisio lleihau bygythiad y Belgiaid – ac maen nhw’n dîm sydd yn edrych fel petai nhw’n gallu ennill gemau hyd yn oed pan nad ydyn nhw ar eu gorau.