Mae clwb rygbi Bryste wedi cyhoeddi y bydd Ian Evans yn ymuno a’r clwb ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd Evans, sydd wedi ennill 33 o gapiau dros Gymru, yn symud o’r Gweilch.

Roedd disgwyl i Evans symud i Toulon ond fe benderfynodd y tîm Ffrengig i beidio â phenodi’r chwaraewr.

Mae Evans wedi ennill dwy Gamp Lawn gyda Chymru a chafodd ei enwi yng ngharfan y Llewod Prydeinig a Gwyddelig y llynedd.

“Mae Ian yn chwaraewr ail-reng corfforol a bydd yn ychwanegiad gwerthfawr i’r tîm wrth edrych ymlaen at y tymor newydd,” medd Cyfarwyddwr Rygbi Bryste, Andy Robinson.

Dywedodd Ian Evans: “Mae’r adnoddau fan hyn mor broffesiynol – rwy’n edrych ymlaen at yr her newydd.

“Rwy’n gwybod nifer o’r chwaraewyr yn barod ac roeddent yn hyderus ynghylch datblygiad y clwb. Mae’n wych i fod yn rhan o un o brosiectau mwyaf cyffrous rygbi Lloegr.”

Mae Evans yn ymuno a charfan sydd â nifer sylweddol o Gymru yn ei phlith.

Mae cyn-gapten Cymru Ryan Jones, y mewnwr Dwayne Peel a Matthew Morgan, a enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn y daith o De Affrica, yn barod wedi’u cadarnhau ar gyfer y tymor nesaf.

Y bydd Bryste yn cystadlu yn y Bencampwriaeth ar ôl golli i Gymru Llundain yn y rownd derfynol.