Ben Wright
Sgoriodd Ben Wright ganred i Forgannwg ar drydydd bore’r ornest yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste heddiw.
Cyrhaeddodd Wright (101*) ei ganred oddi ar 125 o belenni mewn batiad sydd wedi cynnwys 19 pedwar ac un chwech hyd yn hyn.
Sgoriodd Wright ei gyfanswm uchaf erioed i Forgannwg – 172 – yn erbyn yr un gwrthwynebwyr yn 2007.
Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 339-2 erbyn amser cinio heddiw, 52 o rediadau y tu ôl i gyfanswm Swydd Gaerloyw o 391.
Yn cadw cwmni i Wright wrth y llain bore ‘ma roedd Jacques Rudolph, sy’n 138 heb fod allan, ac mae’r ddau wedi adeiladu partneriaeth o 152 hyd yn hyn.
Yn gynharach yn y batiad, roedd Rudolph a Will Bragg wedi adeiladu partneriaeth o 151 am y wiced gyntaf.