Mae canolwr Gleision Caerdydd, Owen Williams wedi dioddef anaf difrifol i’w wddf yn ystod cystadleuaeth 10 bob ochr yn Singapore.
Anafwyd Williams, 22 oed, yn y gêm am y trydydd safle yn erbyn Dreigiau Pacific Asia.
Nid yw difrifoldeb yr anaf wedi’i gadarnhau ac mae Williams yn parhau i fod yn yr ysbyty yn Singapore.
Dywedodd y rhanbarth mewn datganiad: “Bydd Owen Williams yn aros yn yr ysbyty yn Singapore ar ôl iddo ddioddef anaf yn y gystadleuaeth 10 bob ochr.
“Hoffai’r rhanbarth gymryd y cyfle i ddiolch i gefnogwyr am eu negeseuon o gefnogaeth. Bydd y Gleision yn cyhoeddi diweddariadau pellach pan fyddan nhw ar gael.”
Mae Williams yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr mwyaf addawol rygbi Cymru ac mae’r chwaraewr, sydd wedi bod yn rhan o gynllun datblygu’r Gleision, wedi ennill pedwar cap dros Gymru ar ôl iddo ennill ei gap cyntaf yn erbyn Siapan yr haf diwethaf.
Collodd y Gleision y gêm am y trydydd safle 26-17 yn erbyn y Dreigiau Pacific Asia.
Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd hyfforddwr y Gleision, Paul John, “Mae wedi bod yn brofiad hynod fuddiol i’r garfan gyfan ac rydym yn diolch i drefnwyr y gystadleuaeth am y gwahoddiad.”