Bydd Y Seintiau Newydd yn teithio i Slofacia i herio SK Slovan Bratislava yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr eleni.
Yng Nghynghrair Ewropa, fe fydd Bangor yn teithio i Wlad yr Ia i herio Stjarnan, Airbus yn chwarae FK Haugesund o Norwy, ac Aberystwyth yn wynebu Derry City o gynghrair Iwerddon.
Cafodd yr enwau eu dewis o’r het heddiw, gyda gêm gyntaf y Seintiau yn Bratislava ar 15/16 Gorffennaf, a’r ail gymal gartref ar 22/23 Gorffennaf.
Doedd y Seintiau heb gael eu dewis yn un o’r detholiadau, ac wedi cael eu rhoi mewn ‘grŵp’ oedd yn golygu fod ganddyn nhw un siawns mewn chwech o chwarae cewri’r Alban, Celtic.
Ond pencampwyr Gwlad yr Ia, KR Reykjavik, fydd yn wynebu’r Albanwyr yn yr ail rownd.
Y Seintiau Newydd yw unig gynrychiolwyr Uwch Gynghrair Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr eleni, ar ôl iddyn nhw ennill y gynghrair eto’r tymor hwn.
Fe enillodd Slovan Bratislava eu cynghrair nhw’n gyfforddus eleni hefyd, eu hail gynghrair yn olynol.
Nhw yw’r unig dîm o Slofacia a’r hen Tsiecoslofacia i ennill cwpan Ewropeaidd, gan drechu Barcelona i ennill Cwpan Enillwyr y Cwpanau nôl yn 1969.
Cynghrair Ewropa
Bangor oedd yr unig un o dimau Cymru i gael eu dewis fel detholiadau yn rownd rhagbrofol cyntaf Cynghrair Ewropa, ac fe fyddwn nhw’n herio Stjarnan a orffennodd yn drydydd yng nghynghrair Gwlad yr Ia yn 2013.
Maen nhw ar frig cynghrair Gwlad yr Ia ar hyn o bryd ar ôl naw gêm, gan ennill pump o’r rheiny.
Gwrthwynebwyr Airbus, a ddaeth yn ail yn Uwch Gynghrair Cymru eleni, fydd FK Haugesund a oedd yn drydydd yng nghynghrair Norwy y llynedd.
Ond mae Haugesund yn cael tymor sâl eleni, ac yn drydydd o waelod y tabl gydag ond dwy fuddugoliaeth mewn 13 gêm hyd yn hyn.
Mae gan Aberystwyth drip byrrach yn y rownd gyntaf, wrth iddyn nhw deithio i Derry yng Ngogledd Iwerddon i wynebu’r tîm a orffennodd yn bedwerydd yn eu cynghrair yn 2013.
Ar hyn o bryd mae Derry’n seithfed yn eu cynghrair ar ôl ennill dim ond tair gêm o 16 y tymor hwn hyd yn hyn.
Mae gwrthwynebwyr y tri tîm o Gymru’n chwarae mewn cynghreiriau sydd yn cael chwarae yn ystod yr haf, gan olygu eu bod eisoes yng nghanol eu tymor nhw pan fyddwn nhw’n chwarae yng Nghyngrair Ewropa.
Mae timau Cymru eisoes wedi dechrau chwarae gemau cyfeillgar er mwyn paratoi eu hunain ar gyfer y gemau, fydd yn cael eu chwarae dros ddwy gymal ar 3 a 10 Gorffennaf, gyda’r tri ohonynt yn chwarae i ffwrdd o gartref yn eu gêm gyntaf.
Mae tocynnau eisoes yn gwerthu’n dda ar gyfer cymal cartref Aberystwyth, a hynny er gwaethaf y ffaith nad oedden nhw’n gwybod pwy fyddai eu gwrthwynebwyr.
Yn ail rownd rhagbrofol Cynghrair Ewropa dyma fydd gwrthwynebwyr y Cymry:
Derry City/Aberystwyth v Shakhtyor Soligorsk (Belarws)
FK Sarajevo (Bosnia-Herzegovina) v Haugesund/Airbus
Motherwell (Yr Alban) v Stjernan/Bangor