Castell Caerdydd
Fe fydd rhai o gestyll ac adeiladau enwocaf Cymru yn cael eu goleuo’n goch heno, i ddangos cefnogaeth ar gyfer tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Fe fydd golau a logo newydd y tîm yn cael eu taflunio ar Gastell Caerdydd, Castell Talacharn, Castell Conwy, Castell Caerffili a Chastell Caernarfon wedi i’r haul fachlud. A bydd Canolfan Mileniwm Cymru, yr Eglwys Norwyaidd a Basn Roald Dahl yng Nghaerdydd hefyd yn cynnal sioe oleuadau.
Fe fydd 200 o athletwyr o Gymru yn teithio i Glasgow mewn ychydig o wythnosau, gyda’r pencampwr Olympaidd Geraint Thomas a phencampwraig y Byd Becky James ymysg yr aelodau amlwg yn nhîm seiclo Cymru a Helen Jenkins yn cystadlu yng nghystadleuaeth y triathlon.
‘Cyffro’
“Mae’r cyffro’n cynyddu nawr wrth i ni baratoi ar gyfer dechrau’r cystadlu yng Nglasgow,” meddai Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell.
“Gyda’r genedl yn cefnogi Tîm Cymru, rydyn ni’n gwybod y bydd ein hathletwyr ni’n cael hwb mawr ac yn gwneud eu gorau glas dros y fest goch.
“Mae’n gyfle arall i ni ddangos ein bod ni i gyd, ar hyd a lled y wlad, yn sefyll fel un i ddangos ein cefnogaeth.”
Mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i rannu eu lluniau o’r digwyddiadau unigryw yma gan ddefnyddio’r hashnodau #poblwc2014 a #GoWales ar wefannau cymdeithasol.
Gallwch hefyd anfon unrhyw luniau sydd gennych chi i golwg360, un ai drwy drydar eich llun atom ni ar @golwg360, ei rannu i’n tudalen Facebook, neu’n ebostio ni ar gol@golwg.com.