Andy Murray
Fe fydd ymgyrch Andy Murray i fod yn bencampwr Wimbledon am yr eil dro yn cychwyn ar y Cwrt Canol y prynhawn ‘ma.

Yr Albanwr fydd yn cychwyn y bencampwriaeth mewn gêm yn erbyn David Goffin o Wlad Belg am 1 o’r gloch.

Murray, 27, oedd y Prydeiniwr cyntaf i ennill Wimbledon ers Fred Perry yn 1936 ac mae wedi dweud ei fod yn “barod” ar gyfer y gêm gyntaf ac yn credu y gall ennill y twrnament unwaith eto.

Yn ôl y trefnwyr, mae tocynnau wedi gwerthu “yn gynt nag erioed” eleni.

‘Dwi’n barod’

Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe, dywedodd Andy Murray:

“Os dwi’n chwarae’r gorau y galla’ i, fe wnâi roi cyfle i’n hun wneud yn dda. A rhoi fy hun mewn safle i ennill y twrnament.

“Ond allwch chi ddim dechrau’n araf mewn twrnament fel hyn. Mae’n rhaid  canolbwyntio o’r cychwyn cyntaf. Ac mi fydda i’n barod.”