A fydd Ronaldo'n gwenu erbyn dydd Iau tybed?
Gydag eiliadau’n weddill o’r amser ychwanegol am anafiadau yn Manaus neithiwr roedd cefnogwyr yr UDA’n meddwl fod eu tîm ar fin cyrraedd rownd yr 16 olaf.

Roedd eu tîm wedi llwyddo i frwydro nôl ar ôl gôl gynnar gan Nani i Bortiwgal, ac yn arwain o 2-1 diolch i ergyd hyfryd gan Jermaine Jones ac ergyd oddi ar fol Clint Dempsey.

Ond ym munud olaf y gêm, gyda Phortiwgal ar fin mynd allan o Gwpan y Byd, fe gafodd Cristiano Ronaldo’r bêl ar yr asgell dde a chroesi’n wych yn syth i ben Silvestre Varela – 2-2, a’r gobaith dal yn fyw.

Wedi dweud hynny, mae sefyllfa Portiwgal dal yn fregus tu hwnt yng Ngrŵp G o hyd, gyda’r Almaen a’r UDA yn arwain y ffordd ar bedwar pwynt, a hwythau a Ghana ar un pwynt.

Mae gwahaniaeth goliau Portiwgal hefyd yn wael ar ôl colli 4-0 i’r Almaen, gan olygu y byddai’n rhaid iddyn nhw roi cweir i Ghana a gobeithio fod yr Almaenwyr yn trechu’r UDA yn hawdd er mwyn i griw Cristiano gyrraedd y rownd nesaf.

Gwlad Belg drwyddo

Mae Gwlad Belg eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rownd nesaf a hynny ar ôl dim ond dwy gêm yng Ngrŵp H, ond cael a chael oedd hi iddyn nhw eto yn erbyn Rwsia.

Gyda’r gêm yn ddi-sgôr wrth iddi gyrraedd y munudau olaf roedd hi’n edrych fel petai Rwsia wedi llwyddo i gipio pwynt, cyn i’r eilydd Divock Origi rwydo gydag ond dwy funud i fynd.

Mae’n batrwm cyfarwydd i’r Belgiaid yn y twrnament hyd yn hyn, oedd eto ddim ar eu gorau ond wedi llwyddo i sicrhau buddugoliaeth hwyr diolch i’w eilyddion.

Cyffro rhwng Algeria a Corea

Fyddai’r rhan fwyaf o wylwyr ddim wedi disgwyl mai hon fyddai un o gemau mwyaf cyffrous Cwpan y Byd, ond dyna’n union gafwyd wrth i Algeria herio De Corea neithiwr.

Yr Algeriaid gipiodd hi o 4-2, wedi hanner cyntaf gwefreiddiol a welodd yr Affricaniaid 3-0 ar y blaen diolch i goliau Islam Slimani, Rafick Halliche ac Abdelmoumene Djabou.

Yn yr ail hanner fe ddaeth y Coreaid yn ôl i mewn i’r gêm, gyda Song Heung-min yn tanio gôl gyntaf ei dîm a chwaraewr Abertawe Ki Sung-yeung hefyd yn mynd yn agos gydag ergyd.

Rhwydodd Yacine Brahimi i ymestyn mantais Algeria unwaith eto cyn i Koo Ja-cheol sgorio ail gôl De Corea.

Algeria sydd felly â’r fantais dros Rwsia a De Corea wrth gyrraedd y gemau olaf gan eu bod nhw ar dri phwynt, a’r lleill dim ond ar un.

Byddai gêm gyfartal yn erbyn Rwsia felly mwy na thebyg yn anfon yr Algeriaid drwyddo i’r rownd nesaf.

Gemau heddiw

Yr Iseldiroedd v Chile (5.00yp)

Sbaen v Awstralia (5.00yp)

Brasil v Cameroon (9.00yh)

Mecsico v Croatia (9.00yh)

Pigion eraill

Mae adroddiad ym mhapur newydd y Daily Telegraph heddiw yn honni fod swyddogion o Gymdeithas Bêl-droed Ghana wedi cytuno i chwarae gemau cyfeillgar ble gallai’r canlyniad fod wedi’i drefnu o flaen llaw.

Byddai’r ymgais i ddylanwadu ar ganlyniad y gêm wedi digwydd mewn dwy gêm gyfeillgar yn dilyn Cwpan y Byd, yn ôl yr adroddiad, felly ddim yn ymwneud â gemau Ghana yng Nghwpan y Byd.

Mae’r Ghanaiaid wedi gwadu’r honiadau’n llwyr, gan ddweud nad oedden nhw wedi arwyddo unrhyw fath o gytundeb a’u bod nhw bellach wedi pasio’r mater ymlaen i’r heddlu ac i FIFA.

Ymysg honiadau eraill gafodd eu gwneud ddoe, mae cryn dipyn o sylw wedi’i roi i awgrym Harry Redknapp, cyn-reolwr Spurs, fod chwaraewyr yno wedi ceisio osgoi chwarae dros Loegr yn ystod ei gyfnod gyda’r clwb.

Ni wnaeth Redknapp enwi’r “dau neu dri” o chwaraewyr Tottenham oedd yn teimlo nad oedd chwarae i Loegr werth y ffwdan.

Ond mae eraill gan gynnwys capten Lloegr Steven Gerrard nawr wedi galw arno i ddatgelu pwy oedden nhw – gwyliwch y gofod yma.

Ar nodyn ychydig yn ysgafnach i Ghana, mae’n ymddangos fod eu chwaraewr canol cae Sulley Muntari wedi bod yn ddigon hael gyda’i arian yr wythnos hon.

Fe ymddangosodd fideo ddoe o Muntari’n dosbarthu arian i bobl ym Maceia cyn eu gêm yn erbyn yr Almaen, gan gerdded o gwmpas yn sgwrsio, llofnodi a chael ei lun wedi’i dynnu.

Braf gweld seren AC Milan yn mentro allan o glitz & glamour Cwpan y Byd a rhoi rhywbeth yn ôl i Frasiliaid cyffredin.

Ac i orffen, fe ymddangosodd y meme yma ar y we ddoe yn procio hwyl am dynged y Saeson, wrth i Luis Suarez a Steven Gerrard gofleidio ar ddiwedd gêm Lloegr ac Uruguay.