Jacques Rudolph
Sgoriodd y batiwr agoriadol o Dde Affrica, Jacques Rudolph ei ail ganred o fewn wythnos i Forganwng ar ail ddiwrnod yr ornest yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste heddiw.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd Rudolph yn 108 heb fod allan, wedi wynebu 167 o belenni, wrth i Forgannwg gyrraedd 209-2.

Mae Rudolph wedi taro 16 ergyd am bedwar ac un chwech hyd yn hyn yn ystod batiad sydd wedi para tair awr a thri chwarter.

Daeth ei ganred cyntaf (103) yn erbyn Swydd Gaint yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Wrth ymateb i 391 gan y tîm cartref yn eu batiad cyntaf, cafodd y Cymry ddechreuad cadarn wrth i Rudolph rannu partneriaeth agoriadol o 151 gyda Will Bragg (67).

Bragg oedd y cyntaf i golli’i wiced, wedi’i ddal gan Chris Dent oddi ar fowlio Tom Smith.

Ychwanegodd y capten Mark Wallace 17 at gyfanswm Morgannwg cyn i’r un bowliwr gipio’i ail wiced, y batiwr-wicedwr wedi’i ddal gan Will Tavare a chyfanswm yr ymwelwyr yn 187.

Ar y diwrnod cyntaf, cipiodd y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan ei ganfed wiced i Forgannwg – yr ail gyflymaf erioedd i gyrraedd y garreg filltir.

Ond methodd o drwch blewyn â chipio pum wiced mewn batiad unwaith eto, gan orffen gyda ffigurau o 4-57.

Bydd Morgannwg yn dechrau’r trydydd diwrnod 182 y tu ôl i Swydd Gaerloyw.