Bydd Siroedd Llai Cymru’n gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth o wyth wiced dros Swydd Amwythig, pan fydd Swydd Berkshire yn teithio i Frynbuga heddiw.
Mae Siroedd Llai Cymru’n bedwerydd yn Adran y Gorllewin, tra bo’r ymwelwyr yn chweched.
Mae carfan Cymru’n cynnwys seren yr ornest honno ym Mhontarddulais, sef chwaraewr amryddawn Morgannwg, Ruaidhri Smith.
Cipiodd 11 wiced dros y ddau fatiad i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Cymry, ac fe sgoriodd 40 a 35 heb fod allan gyda’r bat.
Yn y gorffennol, mae’r ddwy sir wedi herio’i gilydd 23 o weithiau, gyda naw buddugoliaeth yr un a thair gêm gyfartal.
Ond dydy Swydd Berkshire ddim wedi ennill yn y Bencampwriaeth eto’r tymor hwn.
Siroedd Llai Cymru: D Holden, S Griffiths, G Holmes, J Lawlor, T Baker, A Norman, D Thomas (capten), O Morgan, N Davies, H Powell, R Edwards, C Brown
Swydd Berkshire: Waqas Hussain, S Macey, D Barnes, J Morris (capten), R Morris, E Brock, S Davison, M Carter, R Williams, T Nugent, Gurveer Singh, A Rishton.