Cael a chael oedd hi i Aguero a Messi (AP/Victor Caivano)
Doedd hi ddim yn ddiwrnod gwych i’r ffefrynnau yng Nghwpan y Byd wrth i wrthwynebwyr gwydn greu trafferthion, ac nid am y tro cyntaf yn y twrnament chwaith.

Yn erbyn Iran roedd disgwyl i’r Ariannin sgorio llond trol o goliau, ond doedden nhw methu canfod ffordd drwy eu hamddiffyn ac os rhywbeth Iran gafodd y cyfleoedd gorau wrth wrthymosod yn yr ail hanner.

Ond gyda’r cloc eisoes wedi cyrraedd yr amser ychwanegol am anafiadau, fe gamodd un gŵr bach i’r llwyfan eto i achub yr Ariannin.

Fe gasglodd Lionel Messi’r bêl ar y dde, a chydag un symudiad chwim heibio i amddiffynnwr fe darodd ergyd wych i gornel bellaf y rhwyd – 1-0 i’r Ariannin, a chalonnau’r Iraniaid wedi’u torri.

Mae’r Ariannin nawr drwyddo yng Ngrŵp F, ac angen gêm gyfartal yn unig yn erbyn Nigeria i ennill y grŵp.

Bosnia allan

Yn anffodus i Bosnia-Herzegovina, doedden nhw methu dibynnu ar chwaraewr gorau’r byd i’w hachub nhw yn y gêm arall yng Ngrŵp F, wrth i Nigeria gipio buddugoliaeth annisgwyl yn y gêm hwyr.

Roedd Nigeria’n chwarae â llawer mwy o bwrpas nag yr oedden nhw wedi gwneud yn erbyn Iran, ond Bosnia hefyd yn edrych yn fwy peryglus ac fe wnaeth y llumanwr benderfyniad anghywir wrth beidio  â chaniatáu gôl Edin Dzeko oherwydd camsefyll honedig.

Funudau’n ddiweddarach, wedi hanner awr o chwarae, roedd Nigeria ar y blaen ar ôl i Emmanuel Emenike sgipio heibio i Emir Spahic ar yr asgell dde, a’i chroesi hi i Peter Odemwingie rwydo.

Ac felly’r arhosodd hi, gydag Edin Dzeko a’r eilydd Vedad Ibisevic yn euog o fethu cyfleoedd i’r Bosniaid.

Maen nhw nawr allan o Gwpan y Byd ar ôl dwy golled, tra bod Nigeria yn agos i gipio lle yn y rownd nesaf.

Ghana’n rhoi gêm galed

Ar ôl rhoi cweir i Bortiwgal yn eu gêm ddiwethaf roedd pawb yn disgwyl buddugoliaeth arall i’r Almaen yn erbyn Ghana neithiwr, ond fe orffennodd hi’n 2-2 mewn gêm gyffrous tu hwnt.

Ddigwyddodd fawr yn yr hanner cyntaf, ond roedd yr Almaenwyr ar y blaen o fewn pum munud i’r ail hanner wedi i Mario Gotze benio pêl wych gan Thomas Muller.

Ond fe darodd Ghana nôl yn syth, ac o fewn 12 munud roedden nhw ar y blaen diolch i goliau Andre Ayew ac Asamoah Gyan.

Daeth yr Almaen a’u hen ben ymlaen yn yr ymosod, a chyda’i gyffyrddiad cyntaf roedd Miroslav Klose wedi unioni’r sgôr ar ôl procio’r bêl i mewn o gic rydd.

Mae Klose nawr yn gyd-brif sgoriwr yn hanes Cwpan y Byd gyda phymtheg gôl, yr un faint a chyn-ymosodwr Brasil, Ronaldo.

Mae’n golygu fod Grŵp G dal yn un agored, gyda’r Americaniaid a Phortiwgal yn herio’i gilydd heno.

Gemau heno

Gwlad Belg v Rwsia (5.00yp)

De Corea v Algeria (8.00yh)

UDA v Portiwgal (11.00yh)

Pigion eraill

Os oedd rhai o’r chwaraewyr yn nerfus cyn y gêm rhwng Ghana a’r Almaen neithiwr, doedd hynny’n sicr ddim yn wir am un o’r masgots.

Roedd ganddo hyd yn oed amser i bwyso lawr a gorffwys – ar un o’r chwaraewyr!

Fydd y llumanwr yma ddim yn boblogaidd gyda phobl Bosnia, na Herzegovina yn hynny o beth, ar ôl iddo wrthod caniatáu’r gôl yma gan Edin Dzeko.

O gofio y bydden nhw dal yng Nghwpan y Byd petai hon wedi cyfri, mae rhywun yn amau y bydd gan y llumanwr anffodus ddigon o amser i ymlacio ar y traeth am weddill Cwpan y Byd.

Fyddai gwylio Cwpan y Byd jyst ddim yr un peth heb ddathliadau rhai o dimau Affrica (a Colombia i fod yn deg!) pan maen nhw’n sgorio – ‘da chi ddim yn gweld hyn yn Stoke ar nos Fawrth gwlyb:

A fyddai Cwpan y Byd ddim yr un peth heb Miroslav Klose’n sgorio chwaith, ond fe pob ymosodwr da mae’n gwybod sut i ddwyn gôl gan un o’i gyd-chwaraewyr.

Dyma fo’n procio hi i’r rhwyd o beniad Benedict Howedes – ac yna dangos nad ydi o mor ystwyth ag yr oedd o (mae’n 36 bellach) gyda’i ymgais o wneud ‘backflip’: