Cipiodd y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan ei ganfed wiced dosbarth cyntaf i Forgannwg ar ddiwrnod cyntaf eu gornest yn erbyn Swydd Gaerloyw yn ail adran y Bencampwriaeth heddiw.
Hogan yw’r ail gyflymaf yn hanes y sir i gyflawni’r nod, wedi iddo fowlio capten Swydd Gaerloyw, Hamish Marshall toc cyn 7yh heno.
Mae Hogan wedi cymryd 20 o gemau i gyflawni’r nod, tra bod yr Awstraliad Michael Kasprowicz wedi cipio’i ganfed wiced yn ei bedwaredd ar bymtheg yn 2003.
Dechreuodd Hogan yr ornest ym Mryste gyda 97 o wicedi dosbarth cyntaf,a doedd hi ddim yn hir cyn iddo gipio wiced rhif 98, wedi i Chris Dent gael ei ddal gan Andrew Salter gyda chyfanswm y tîm cartref yn 14-1.
Wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 132, daeth wiced rhif 99 i Hogan, wrth iddo fowlio Will Tavare am 77.
Ond dechreuodd y dathliadau go iawn wrth i Hogan fowlio cyn-seren Seland Newydd, Hamish Marshall, wedi i’r tîm cartref gyrraedd 296-5.
Gorffennodd Swydd Gaerloyw’r diwrnod cyntaf yn 308-5.
Wicedi di-ri
Hogan fu un o sêr Morgannwg yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ac fe gyflawnodd y gamp o gipio pum wiced mewn batiad ddwywaith yn yr ornest yn erbyn Swydd Gaint yr wythnos diwethaf.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg y tymor diwethaf, gan gipio 67 wiced yn y Bencampwriaeth (103 ym mhob cystadleuaeth) a chael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn i’r sir.
Yn dilyn ei lwyddiant y tymor diwethaf, cafodd ei gytundeb ei ymestyn tan ddiwedd tymor 2016.