Ken Owens - ei gais yn rhoi Cymru yng ngolwg buddugoliaeth - ond yn ofer
De Affrica 31 Cymru 30
Fe ddaeth Cymru o fewn dau funud ac un pwynt i ennill eu buddugoliaeth hanesyddol gynta’ yn Ne Affrica.
Dim ond trwy gais gosb ar y diwedd un yr aeth y Springboks ar y blaen am y tro cynta ar ôl i Gymru reoli rhannau helaeth o’r gêm.
Ar un adeg, roedden nhw ar y blaen o 17 pwynt; ac roedden nhw’n mynd i mewn i’r chwarter ola’ gyda deg pwynt o fantais.
Fe wnaethon nhw bopeth i geisio rhoi cyfle am gôl adlam i’r maswr Dan Biggar ond roedd ei ymgais ola’n rhy isel.
Hanner cynta’ – Cymru’n rheoli am hanner awr
Roedd Cymru wedi dechrau’n gry’ gyda chic gosb gan Biggar ar ôl 13 munud a chais gan y canolwr Jamie Roberts ar ôl 20.
Yr asgellwr Alex Cuthbert oedd wedi creu honno; ddau funud wedyn, fe dalodd Roberts y gymwynas yn ôl trwy redeg yn cry’ a chreu cais i Cuthbert.
Fe ddaeth De Affrica’n ôl i 14-17 ar yr hanner, gyda dau drosgais a’r ail pan oedd Cymru i lawr i 13 dyn ar ôl dau gerdyn melyn.
Roedd sgarmes symudol De Affrica wedi dechrau cael effaith er mai Cymru oedd wedi chwarae orau o ddigon am hanner awr.
Yr ail hanner – dechrau’n gry’ eto
Fe ddaethon nhw’n ôl allan yn gry yn yr ail hanner gyda chais gan y bachwr Ken Owens ar ôl chwech munud – hynny ar ôl rhediad cry’ gan Jonathan Davies.
Er gwaetha’ un gic gosb i’r Springboks, roedd dwy gic gan Biggar yn golygu bod Cymru 17-30 ar y blaen.
Wedyn fe drawodd seren y prawf cynta’, Willie le Roux, gyda chais ac, yna, gyda De Affrica’n pwyso’n galed, fe ddigwyddodd y gwaetha’ posib.
Y cefnwr Liam Williams yn taclo’n anghyfreithlon gyda’i ysgwydd, y dyfarnwr yn rhoi cais cosb a hynny’n golygu trosiad hawdd o flaen y pyst a’r sgôr yn 30-31.
Roedd chwaraewyr Cymru ar eu gliniau a’r cefnogwyr wedi gweld cyfle euraidd arall yn llithro heibio.