Canlyniadau, blogiau, podlediadau a mwy gan golwg360
Dim ond tri diwrnod sydd i fynd nes y gic gyntaf yng Nghwpan y Byd ym Mrasil eleni, wrth i’r tîm cartref herio Croatia yn y gêm agoriadol yn Sao Paulo.
A hithau’n dwrnament chwaraeon fwyaf y byd, gyda’r disgwyl y bydd biliynau o bobl yn gwylio’r gemau, mae’r cyffro wedi dechrau adeiladu yn barod.
Fe fydd golwg360 yn adrodd ar y twrnament yn ddyddiol dros y mis nesaf, gydag adroddiadau o’r canlyniadau, a newyddion ychwanegol o Frasil.
Bydd blogiwr pêl-droed golwg360 Rhys Hartley hefyd yn ysgrifennu yn fyw o Frasil, ble bydd yn gwylio rhai o’r gemau, tra y bydd podlediadau rheolaidd hefyd gan y criw nôl yng Nghymru yn trafod y digwyddiadau.
Felly os ydych chi’n ddilynwr brwd o’r bêl gron, â diddordeb achlysurol yng Nghwpan y Byd neu jyst awydd dilyn hynt a helynt y tîm gawsoch chi yn eich sweepstake swyddfa, cofiwch am y diweddaraf o Frasil.
Ymysg rhai o gemau mawr wythnos gyntaf y twrnament fydd Sbaen v Yr Iseldiroedd, Lloegr v Yr Eidal a’r Almaen v Portiwgal.
Yn y cyfamser, dyma gipolwg sydyn gan Iolo Cheung ar bob grŵp, gan gynnwys cysylltiadau rhai o’r timau â Chymru.
Grŵp A: Brasil, Croatia, Mecsico, Cameroon
Brasil yw ffefrynnau’r grŵp, ac fel y tîm cartref mae nifer hefyd yn disgwyl iddyn nhw ennill Cwpan y Byd.
Croatia yn wrthwynebwyr cyfarwydd i Gymru, ar ôl iddyn nhw ein trechu ddwywaith yn y grŵp rhagbrofol i gyrraedd yma.
Mecsico hefyd wedi chwarae yn ein herbyn yn ddiweddar, pan gollon ni 2-0 draw yn Efrog Newydd mewn gêm gyfeillgar yn 2012.
Cameroon yn is na Chymru yn netholiadau’r byd, ac felly er gwaethaf chwaraewyr fel Samuel Eto’o cael a chael fydd hi iddyn nhw ddod allan o’r grŵp.
Grŵp B: Sbaen, Yr Iseldiroedd, Chile, Awstralia
Sbaen yn ddeiliaid y gwpan, ac yn llawn sêr mawr o hyd, felly er y grŵp heriol fe allwch chi ddisgwyl iddyn nhw wneud yn dda.
Yr Iseldiroedd hefyd yn dîm cryf, ac fe fyddwn nhw eisiau gwneud yn iawn am 2010 pan gollon nhw yn y ffeinal i Sbaen – ond doedden nhw ddim yn edrych yn wych wrth guro Cymru’n ddiweddar.
Chile’n dîm cryf arall, a gwyliwch allan am Gary Medel yng nghanol cae iddyn nhw – El Pitbull oedd un o’r unig chwaraewyr i wneud argraff dros Gaerdydd y tymor diwethaf.
Awstralia yn dîm weddol gyfarwydd, gyda nifer o chwaraewyr o gynghreiriau Lloegr gan gynnwys y cyn-Gymro Rhys Williams – fe drechon nhw Gymru 2-1 yn 2011 y tro diwethaf i ni chwarae nhw.
Grŵp C: Colombia, Groeg, Cote d’Ivoire, Japan
Daeth Colombia’n ail i’r Ariannin yng ngrŵp rhagbrofol De America, felly hyd yn oed heb Falcao (anaf) fe fyddwn nhw’n obeithiol o wneud yn dda ar gyfandir cyfarwydd.
Groeg wedi cyrraedd Cwpan y Byd ar ôl gorchfygu Rwmania yn y gemau ail gyfle – tîm trefnus yn amddiffynnol ond ddim yn ormod o fygythiad yn ymosodol.
Cote d’Ivoire yn un o dimau cryfaf Affrica – bydd Didier Drogba’n gobeithio gorffen ei yrfa ryngwladol mewn steil ac fe fydd yn rhaid i wrthwynebwyr fod yn wyliadwrus o’r Alarch Wilfried Bony hefyd.
Japan yn dîm cyffrous i wylio ac yn llawn chwaraewyr rhyngwladol profiadol gyda sêr fel Shinji Kagawa a Keisuke Honda, ond ddim yn debygol o fynd yn bellach na’r 16 olaf.
Grŵp D: Wrwgwai, Costa Rica, Lloegr, Yr Eidal
Fe enillodd Wrwgwai y Copa America yn 2011, ond yna straffaglu i gyrraedd Cwpan y Byd eleni, felly bydd llawer yn dibynnu ar os bydd Luis Suarez ac Edinson Cavani’n tanio.
Costa Rica’n cael eu hystyried fel y tîm gwanaf yn y grŵp, ond maen nhw hefyd wedi trechu Cymru yn ddiweddar pan enillon nhw 1-0 yn 2012, yng ngêm goffa Gary Speed.
Mae’r disgwyliadau yn is ar Loegr y tro hwn, yn enwedig o ystyried y grŵp heriol, ond mae ganddyn nhw chwaraewyr ifanc addawol all greu cynnwrf. Yn ffodus, dydyn nhw dal methu cymryd ciciau o’r smotyn.
Yr Eidalwyr hefyd yn gobeithio mynd yn bell yn y gystadleuaeth, ac yn obeithiol o wneud yn dda yn erbyn y Saeson ar ôl eu trechu yn Ewro 2016 (ar giciau smotyn). Cymru, wrth gwrs, yn cofio’r ornest enwog yn 2002 pan sgoriodd Bellamy’r gôl fuddugol yn erbyn yr Azzuri.
Grŵp E: Swistir, Ffrainc, Ecwador, Honduras
Y Swistir enillodd grŵp y hawsaf o rai Ewrop mae’n siŵr er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd – roedd Cymru’n fuddugol o 2-0 yn eu herbyn nhw nôl yn 2011 pan sgoriodd Bale a Ramsey.
Cyrhaeddodd Ffrainc ar ôl llwyddo i wasgu heibio i’r Wcráin yn y gemau ail gyfle, ond o ystyried y grŵp sydd ganddyn nhw fe allwn nhw fod yn hyderus o gyrraedd y chwarteri o leiaf.
Fe enillodd Ecwador pob gêm gartref ragbrofol ond un er mwyn cyrraedd Brasil ond ennill yr un oddi cartref – felly heb fantais yr altitude uchel peidiwch â disgwyl gormod ganddyn nhw.
Llwyddodd Honduras i orffen yn uwch na Mecsico yn y grŵp rhagbrofol, ac er nad oes llawer o ddisgwyliadau arnyn nhw chwaith fe fydd y brodyr Palacios yn rhan bwysig o’u carfan.
Grŵp F: Ariannin, Bosnia, Iran, Nigeria
Yr Ariannin yn un o’r ffefrynnau i gipio’r gwpan hefyd, ac maen nhw’n wynebu grŵp gymharol hawdd – bydd Cymru’r Wladfa’n siŵr o fod yn cefnogi Messi, Aguero a’r gweddill.
Bosnia Herzegovina fydd un o wrthwynebwyr Cymru yng ngrŵp rhagbrofol Ewro 2016, felly fe fydd yn ddiddorol gweld sut siâp sydd arnyn nhw yn eu twrnament rhyngwladol cyntaf erioed.
Iran yw tîm cryfaf Asia yn ôl detholiadau FIFA, ac fe gyrhaeddon nhw’r gystadleuaeth yn gyfforddus drwy’r gemau rhagbrofol, ond does ganddyn nhw ddim record wych yng Nghwpan y Byd.
Nigeria oedd pencampwyr Cwpan Affrica yn 2012, ond yna fe chwaraeon nhw’n gymharol sâl yn y Confederations Cup ychydig fisoedd wedyn – gan gynnwys ildio gôl i Tahiti!
Grŵp G: Yr Almaen, Portiwgal, Ghana, UDA
Yr Almaenwyr yn gobeithio cyrraedd y rownd gynderfynol unwaith yn rhagor, er absenoldeb Marco Reus, ac fe fydd Miroslav Klose’n gobeithio dod yn sgoriwr uchaf hanes Cwpan y Byd.
Cristiano Ronaldo fydd yn arwain tîm Portiwgal wrth iddo geisio gosod ei stamp ar y llwyfan rhyngwladol – tîm da arall ond ddim cystal ag yr oedden nhw.
Cyrhaeddodd Ghana rownd yr wyth olaf yn 2010, ac roedden nhw o fewn trwch blewyn i fynd yn bellach fyth. Canol cae cryf ond y grŵp yn un heriol.
UDA wedi gadael eu seren ryngwladol fwyaf adnabyddus, Landon Donovan, adref, felly fe fydd pwysau arnyn nhw i brofi mai dyna oedd y penderfyniad cywir.
Grŵp H: Gwlad Belg, Algeria, Rwsia, De Corea
Gwlad Belg yn gyfarwydd i Gymru – ar ôl i ni eu chwarae yn y grŵp rhagbrofol diwethaf, maen nhw hefyd yn ein grŵp Ewro 2016. Disgwyl y bydd y tîm addawol yma’n disgleirio.
Algeria’n un o’r timau cymharol wan yn y gystadleuaeth, ond gyda grŵp eithaf ffafriol fe allwn nhw obeithio gwneud yn well na 2010 pan aethon nhw adref heb sgorio gôl.
Rwsia’n elyn cyfarwydd i’r Cymry ar ôl ein trechu yng ngemau ail gyfle Ewro 2004 – fe fyddwn nhw hefyd yn gobeithio am le yn yr 16 olaf o leiaf.
Bydd gan gefnogwyr Caerdydd ac Abertawe reswm i ddilyn hynt a helynt De Corea, gan fod Kim Bo-Kuyng o’r Adar Gleision a Ki Sung-Yeung o’r Elyrch yn eu carfan.