Mae rhanbarthau’r Gleision a’r Dreigiau wedi cyhoeddi y byddan nhw’n teithio i Loegr ar gyfer gemau cyfeillgar ym mis Awst wrth iddynt baratoi ar gyfer tymor newydd o rygbi.
Bydd y Gleision, o dan reolaeth newydd Mark Hammett yn teithio i ganolbarth Lloegr i wynebu Teigrod Caerlŷr a chlwb presennol y Cymro Owen Williams ar nos Wener, 29 Awst.
Taith fyrrach fydd gan y Dreigiau wrth iddyn nhw groesi Pont Hafren i herio Bryste, clwb newydd Ryan Jones, ar ddydd Sul, 17 Awst.
Yn ogystal â’r gêm yn erbyn Bryste, mae’r Dreigiau hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi penodi Pete Grzanko fel Cyfarwyddwyr Masnach newydd y rhanbarth.
Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Grzanko ei fod yn “grêt i fod gyda’r Dreigiau, mae yna deimlad o glwb rygbi go-iawn yn perthyn iddi”.
Mae tocynnau ar gyfer y gemau cyfeillgar ar werth o wefannau swyddogol y rhanbarthau.