Llywelyn Williams
Llywelyn Williams sydd yn trafod hanes un o ddinasoedd mwyaf difyr Cwpan y Byd ym Mrasil …
Wrth edrych yn fras ar y dinasoedd sy’n cynnal y gemau ar draws Brasil, sylwais ar ddinas roeddwn wedi dod ar ei thraws gynt yn fy astudiaethau Lefel A Daearyddiaeth dair blynedd yn ôl bellach, a Curitiba yw honno!
Dinas sydd wedi ei lleoli yn ne ddwyrain Brasil gyda phoblogaeth o 3.2 miliwn. Dw i’n siŵr fod nifer o ddaearyddwyr dynol wedi dod ar draws y ddinas hon yn eu hastudiaethau ar gynaliadwyedd, yn enwedig wrth geisio astudio sut mae ceisio rheoli dinas yn y ffordd gywir.
Mi fydd y ddinas yn denu miloedd ar filoedd o gefnogwyr o bedwar ban byd yn y misoedd nesaf. Felly sut fyddan nhw’n ymdopi â’r haid newydd o dwristiaid, a pha fath o effaith ‘sgwn i fydd ar y trigolion yn ogystal â’r gynulleidfa ehangach?
A fydd gemau Cwpan y Byd yn Curitiba yn sbardun i ysbrydoli dinasoedd eraill i droi yn fwy cynaliadwy?
Bws neu Fetro?
Mae Curitiba yn cael ei chydnabod yn fyd eang fel un o ddinasoedd cynaliadwy gorau’r blaned. Felly sut aethpwyd ati i drawsnewid Curitiba mewn gwlad sy’n datblygu o hyd fel Brasil, ble mae problemau ansawdd tai a thlodi yn amlwg iawn hyd heddiw?
Mae’r diolch mwyaf i un o benseiri ac un o faeri pennaf Curitiba, Jamie Lerner. Penodwyd Lerner, pensaer cynllunio trefol, yn faer ar y ddinas yn y 1960au hwyr gan drawsnewid y dirwedd drefol yn gyfan gwbl gynaliadwy o ran yr amgylchedd, economi a chymdeithas.
Mae tystiolaeth i awgrymu, trwy’i weledigaeth ef, fod 99% o’r trigolion mewn arolwg yn hapus iawn i fyw yn Curitiba.
Un syniad gafodd Lerner oedd cynllunio system fysiau cyhoeddus ar ffurf Metro dinesig, gan fod y gwario ar isadeiledd tanddaearol yn gostus tu hwnt.
Mae’r bysiau cyhoeddus wedi cael eu dylunio’n benodol fel system drenau tanddaearol, gyda gorsafoedd wedi eu gosod ar eu cyfer. Hyd heddiw, mae’r system fysiau wedi tyfu i raddau ble mae 85% o ddinasyddion yn eu defnyddio.
Ailgylchu ac adnewyddu
Yn ail, mae’r ddinas wedi’i chynllunio i hybu mwy o gerdded, gan atal gorlifiad o geir i mewn i’r ddinas. Yn amgylcheddol, er bod y boblogaeth wedi cynyddu’n sydyn dros y degawdau diwethaf, mae’r ddinas wedi cynllunio digon o dir gwyrdd â chynlluniau clyfar i greu argae naturiol allan o lifogydd, gan greu llynnoedd bach twt fel parciau hamdden.
Yn amgylcheddol a chymdeithasol, mae gan y ddinas bolisi ble mae trigolion tlota’r ardal ar y cyrion yn cyfnewid ysbwriel a gwastraff am docynnau bws, bwyd a llyfrau dysgu.
Nid yn unig mae’r cynllun hwn yn gwella taclusrwydd ac ailgylchu’n gyffredinol ond hefyd mae’n gwella ansawdd bywyd y tlotaf mewn cymdeithas.
Does dim amheuaeth o gwbl felly mai Curitiba yw un o’r dinasoedd sy’n ailgylchu fwyaf yn y byd, gan ailgylchu 70% o ddeunydd amrywiol.
Hefyd mae datblygiadau cyffrous wedi bod ynghlwm â gwella ansawdd tai yn ardaloedd y favelas gan roi gwaith adeiladu i’r trigolion a’r cyfle i gydweithio â’r penseiri adeiladu tai eu hunain.
Yn y 1990au prynwyd y tir ffermio gan y llywodraeth, aeth ati i adeiladu 50,000 o dai fforddiadwy a fyddai’n gartref i oddeutu 200,000 o bobl.
Yn fy marn i mae’n werth edrych ar bolisïau cymdeithasol Curitiba. Teimlaf weithiau y buasai ein gwlad ni’n hunain yn gallu dilyn esiampl athroniaeth gymdeithasol amgylcheddol Lerner.
Neu a yw’n ormod o embaras neu’n rhy sosialaidd o lawer i Lywodraeth Prydain – sy’n un o wledydd cyfoethocaf y byd o ran cyfalaf a chefndir trefedigaethol, ond gyda phroblemau cymdeithasol enfawr eu hunain fel pawb arall – ddilyn camau cynaliadwy Curitiba fel rhan o gynllun adfywio cymdeithasol?
Pwy a ŵyr … ond tybed a fyddai Llywodraeth Cymru o dan y Blaid Lafur hefyd yn meddwl am gynllunio trefol o’r fath?
Ymlaen at y Cwpan
Wrth gwrs mi fydd Cwpan y Byd yn atyniad enfawr i Curitiba yn ystod yr haf, gyda’r deiliad Sbaen, yn ogystal â Rwsia, Awstralia, Algeria, Ecuador a Honduras yn ymweld â’r Arena da Baixada yn ystod y gemau agoriadol.
Dyma gymysgedd ddiddorol o wledydd ar draws y byd a allai o bosib gael eu dylanwadu gan gynlluniau Lerner wrth deithio o gwmpas ar y bysiau neu tra’n mwynhau gwyrddni naturiol y ddinas yn y parciau hamdden.
Gwledydd ble mae’r rhan fwyaf wedi profi trefedigaethu, rhyfeloedd cartref ac unbennaeth yn y gorffennol, ond hefyd mewn rhai achosion wedi cynhesu tuag at bolisïau sosialaidd yn y gorffennol hefyd, ac o bosib yn ceisio ystyried efelychu Curitiba yn y dyfodol.
Bydd y biliynau sy’n gwylio’r gemau hefyd yn cael blas ar y dinasoedd ar y cyfryngau, gan obeithio y byddai’r sylw mewnol ac allanol yn denu ysbrydoliaeth a chyhoeddusrwydd buddiol i’r ddinas ac i Frasil.
Problemau anffodus
Yn anffodus, mae’r gystadleuaeth ar y funud wedi cael problemau adeiladwaith, marwolaethau gweithwyr a phrotestiadau sifil yn erbyn gorwario ar y twrnament.
Hyderaf felly fod cynaliadwyedd Curitiba am gynnig ochr fwy cadarnhaol o lawer i ddatblygiadau trefol y wlad er mwyn i’r gymuned ryngwladol gael gweld.
Er bod y cwmnïau mawrion megis Coca Cola a McDonalds yn noddwyr hael i’r Cwpan, gobeithiaf na fyddan nhw’n difetha hygrededd y ddinas gyda sbwriel diangen.
Diddorol fydd gweld faint o’r gwaddod ariannol fydd yn mynd i gymunedau Brasil yn hytrach nag i goffrau’r cwmnïau noddedig, a sut fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned.
Ond cyn yr holl drafod am sgîl effeithiau’r twrnament, mi fydd Curitiba yn gobeithio gweld gwledd o goliau a chlasuron yn cael eu creu yn Arena da Baixada, er mwyn ychwanegu’i hun at hanes Cwpan y Byd.
Achos, yn y bôn, dyna pam fydd pobl wir yn cofio Curitiba.