Tîm Ysgol Plasmawr
Enw: Tîm Ysgol Plasmawr
Lleoliad: Caerdydd
Lliwiau: Marŵn
Rheolwr: Aled Williams
Is-reolwr: Gwyn Jones
Capten: Bradley Cotterill
Ar ôl i griw Ysgol Dewi Sant gael hwyl dda arni yn eu twrnament ysgolion nhw yn gynharach yr wythnos hon mae Tîm yr Wythnos golwg360 yn dilyn trywydd tebyg unwaith eto.
Ysgol Plasmawr yw pencampwyr presennol twrnament ysgolion dan-14 Cymru, ar ôl trechu Ysgol Bryn Alun yn y rownd derfynol ar ddechrau mis Ebrill.
Ond os nad oedd hynny’n ddigon mae’r fuddugoliaeth honno hefyd yn golygu bod cyfle iddyn nhw chwarae mewn twrnament arbennig yn erbyn goreuon gweddill ynysoedd Prydain y penwythnos hwn.
Heddiw maen nhw’n teithio i ganolfan Lilleshall, Sir Amwythig, i gymryd rhan yng Nghwpan Allen McKinstry yn erbyn pencampwyr dan-14 yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a dau dîm gorau Lloegr.
Fe fydd Plasmawr yn wynebu pencampwyr yr Alban heno, a phencampwyr Lloegr yfory, cyn i’r ffeinal a’r gemau eraill gael eu chwarae ddydd Sul.
Ac mae eu his-reolwr Gwyn Jones yn cyfaddef nad ydyn nhw wedi bod y mwyaf lwcus o ran y ddau dîm fydden nhw’n eu hwynebu.
“Yn anffodus dw i’n meddwl ein bod ni wedi cael y ddau dîm gorau,” meddai Gwyn Jones. “Ond wel, oes ydan ni am guro fo mae’n rhaid i ni guro’r gorau.”
Mae arddull y twrnament yn un anarferol hefyd, gydag enillwyr pob gêm yn derbyn tri phwynt yn y tabl, ond nid yw gemau cyfartal yn cael eu caniatáu.
Bydd unrhyw gêm sydd yn gorffen gyda’r sgôr yn hafal felly’n mynd i giciau o’r smotyn, gyda’r enillwyr yn cael dau bwynt a’r collwyr yn cael un.
Trip costus
Yn anffodus i’r ysgol mae cost y penwythnos yn Lilleshall wedi dod i £3,000, gan gynnwys costau chwarae a llety a bwyd am ddwy noson.
Ac yn wahanol i’r gwledydd eraill dyw Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru ddim wedi gallu ariannu taith tîm Plasmawr, gan eu bod nhw’n sefydliad gwirfoddol sydd yn gorfod gwario’u holl adnoddau ar redeg eu cystadlaethau yng Nghymru.
Mae’r ysgol felly wedi ceisio casglu noddwyr ac eisoes wedi gofyn i rieni’r chwaraewyr am gyfraniad, yn ogystal â chyfrannu at gost y daith eu hunain.
Mae noddwyr eraill gan gynnwys Canolfan Bêl-droed Gôl, Kitbox Cymru, Guardian Global Technologies Ltd, YC Sports a label recordio Peski eisoes wedi addo cyfraniadau.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r noddwyr hyd yn hyn ac i’r Gymdeithas Bêl-droed Ysgolion am ein cefnogi ni,” meddai Gwyn Jones. “Ond os oes unrhyw gymorth, cefnogaeth neu noddwyr ychwanegol ar gael byddwn yn wir ddiolchgar!”
Ond unwaith y byddwn nhw’n cyrraedd yno, y cyfle i gystadlu yn erbyn rhai o sêr ifanc eraill Prydain ac Iwerddon fydd yr unig beth ar feddwl y bechgyn.
Ac maen bosib nad dyma’r olaf a welwn ni o’r bechgyn hyn yn cystadlu’n rhyngwladol chwaith.
“Mae un o’r bechgyn eisoes yn chwarae ar lefel ieuenctid dros Gymru,” meddai Gwyn Jones. “Gyda Chymru wedi gwneud cais i gynnal gemau Ewro 2020 yng Nghaerdydd gallai rhai o’r disgyblion fod yn sêr rhyngwladol y dyfodol.”
Tîm Ysgol Plasmawr: Edward O’Hare-Willmott, Dominic Sweeney, Benjamin Cabango, William Marsh, Iwan Clements, Jonah Griffiths, Ioan Roberts, Keiron Proctor, Bradley Cotterill, Callum Flynn, Samuel Davies, Harrison Morse, Tomos Herbert, Joshua Chapman, Elis Williams, Harri Wyn Bowen