Bydd Chris Gunter yn ymuno â charfan Cymru ar gyfer eu gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd – ar ôl ffonio’r rheolwr Chris Coleman.
Ni chafodd Gunter ei enwi gan Coleman ddoe yn y garfan o 23 fydd yn teithio i Amsterdam ar gyfer y gêm ar 4 Mehefin, oherwydd anaf.
Ond ddoe, yn ôl yr amddiffynnwr, fe roddodd alwad i’r rheolwr i ddweud ei fod bellach yn ffit i chwarae a’i fod ar gael.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed nawr wedi cadarnhau y bydd cefnwr Reading yn ymuno â’r garfan.
“Rwyf wrth fy modd fod Chris yn ymuno,” meddai Coleman. “Mae ganddo brofiad helaeth o ystyried ei fod yn chwaraewr ifanc, ac agwedd wych.”
Neithiwr roedd Gunter ar raglen Radio Wales Sport pan ofynnodd y cyflwynydd Steffan Garrero pam nad oedd yn y garfan.
Ond er mawr syndod i’r rheiny yn y stiwdio, a’r gwrandawyr, fe ddatgelodd y Cymro, sydd wedi ennill dros 50 o gapiau dros ei wlad, ei fod yn bwriadu ymuno â’r garfan.
“Wel, mi fydda i yng ngharfan Cymru,” cywirodd Gunter. “Roeddwn i’n cario anaf am wythnosau olaf y tymor.
“Ond dw i wedi bod yn edrych ar ei ôl ers rhai wythnosau, ac fe siaradais i â’r rheolwr [Coleman] heddiw ac rwy’n eithaf siŵr y bydda i yn y garfan.
“Does dim siawns y buaswn i’n methu’r gêm yna!”