Guido Burgstaller
Mae Caerdydd wedi arwyddo eu hail chwaraewr o’r haf gan gadarnhau y bydd chwaraewr canol cae Awstria, Guido Burgstaller, yn symud o Rapid Wien.

Dyw’r clwb heb ddatgelu beth oedd y ffi dalon nhw am y chwaraewr, ac fe fydd yr Awstriad yn ymuno â Javi Guerra fel un o wynebau newydd y clwb.

Mae’r gŵr 25 oed wedi arwyddo cytundeb am dair blynedd gyda Chaerdydd, ac yn cyrraedd ar ôl gwneud enw i’w hun fel sgoriwr yng Nghynghrair Awstria eleni ar ôl rhwydo 12 o weithiau mewn 35 gêm.

Fe enillodd Burgstaller, neu ‘Burgi’ fel mae’n cael ei alw, ei gap cyntaf dros Awstria yn 2012, gan chwarae ddwywaith eto dros ei wlad y llynedd mewn gemau rhagbrofol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Almaen.

Yn ei dair blynedd gyda Rapid Wien fe sgoriodd 25 gôl mewn 95 gêm, gan chwarae hefyd yng Nghynghrair Ewropa gyda’r tîm.

“Doedd dim amheuaeth dros fy mhenderfyniad i ymuno â Chaerdydd ar ôl i’r clwb gysylltu am y tro cyntaf,” meddai Burgstaller wrth wefan y clwb. “Mae wastad wedi bod yn freuddwyd i mi chwarae yn y wlad yma.

“Rwyf wedi dilyn Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf ac yn falch iawn o gael y cyfle i wisgo’r crys – rwy’n edmygu angerdd y cefnogwyr yma’n fawr.”