Owain Gruffudd
Owain Gruffudd sy’n pendroni a ydy Cymru angen y gŵr sydd allan yn Seland Newydd …
Dw i’n cofio’r tro cynta’ i mi gael cyfle i weld Gareth Anscombe ar y cae rygbi. Roedd y maswr o Auckland yn gwisgo’r crys rhif 10 dros dîm dan-20 y Crysau Duon ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd draw yn yr Eidal.
Roedd e’n rhannol gyfrifol am lywio’i dîm i fuddugoliaeth anhygoel o 92-0 yn erbyn Cymru, gan lwyddo gydag un ar ddeg trosiad.
Ers y gêm honno yn Rovigo mae nifer o’r chwaraewyr oedd yn cymryd rhan wedi symud ymlaen i dderbyn capiau rhyngwladol llawn.
Rydym ni wedi gweld Liam Williams, y canolwr Owen Williams a Rhodri Jones yn cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf, tra bod Sam Cane, Brodie Retallick a Beauden Barrett wedi gwisgo crys enwog Seland Newydd ar sawl achlysur.
Ond mae Anscombe wedi darganfod ei hun mewn ychydig o benbleth. Mae wedi bod yn chwarae’n dda dros ei glwb, y Chiefs, tymor yma, ond yn parhau i fod yn absennol o garfan Steven Hansen.
Ag yntau’n gallu chwarae fel maswr a chefnwr, mae ganddo gryn dipyn o gystadleuaeth am le yn y garfan, gyda chwaraewyr fel Israel Dagg, Dan Carter, Aaron Cruden a Barrett ymhlith y chwaraewyr o’i flaen.
Anscombe i Gymru?
Mae problemau Anscombe yn golygu fod Gatland wedi gweld posibilrwydd o berswadio’r maswr i gynrychioli Cymru yn y dyfodol.
Yn fab i hyfforddwr Ulster, Mark Anscombe, cafodd ei fam, Tracey, ei geni yng Nghaerdydd, gan olygu fod Gareth yn gymwys i chwarae dros Gymru. Mae Gatland wedi trafod y posibilrwydd yn barod. Ond be allai Anscombe gynnig?
O’i wylio yng ngemau’r Chiefs eleni, ac wrth edrych ar ei ystadegau, mae’n amlwg fod cicio at y pyst yn un o’i gryfderau, gyda llwyddiant o 81% yn y Super 15.
Mae ei gyflymder hefyd yn golygu ei fod yn opsiwn da yn ymosodol, boed hynny fel cefnwr neu faswr. Ond mae ganddo wendidau amlwg hefyd, gyda’i amddiffyn ddim wastad ar ei orau – er, dw i’n tybio byddai Shaun Edwards yn llwyddo i newid hynny.
Mae’n debyg mai i’r Gleision byddai Anscombe yn arwyddo, petai Gatland yn llwyddo i’w ddenu draw i Gymru. Mae llawer o sôn am y potensial iddo ddod i’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd 2015, ond dw i ddim yn rhy siŵr os dw i’n cytuno gyda hyn.
Opsiynau eraill
Mae gennym ni lu o enwau i gystadlu am y crys rhif 10 yma yng Nghymru. Wrth gwrs, y tri amlwg sydd wedi bod yn cystadlu ers i Stephen Jones ymddeol yw Dan Biggar, Rhys Priestland a James Hook.
Tri sydd, erbyn hyn, wedi setlo yn y garfan gyda system Gatland ac sy’n llwyddo i gynnig opsiynau cwbl wahanol i’w gilydd.
Mae nifer o faswyr ifanc hefyd wedi bod yn gwthio am le yn y garfan yn ddiweddar. Mae Owen Williams wedi cael cryn dipyn o sylw yn dilyn ei berfformiadau ef dros Gaerlŷr yng Nghwpan Heineken a’r Aviva Premiership eleni.
Ar y llaw arall, roeddwn i’n disgwyl i Rhys Patchell gychwyn fel maswr yn ystod y Chwe Gwlad, cyn iddo ef ddioddef anaf.
Mae Sam Davies, a gafodd ei enwi’n Chwaraewyr Ifanc Gorau yn y Byd llynedd, wedi perfformio yn ddisglair dros Gymru dan-20 a’r Gweilch dros y flwyddyn ddiwethaf, tra bod Matthew Morgan yn edrych fel opsiwn gwahanol, ond cyffrous.
Gan ychwanegu enwau fel Leigh Halfpenny, Liam Williams, Hallam Amos a Jordan Williams fel opsiynau i safle’r cefnwr, mae’n amlwg fod gan Gymru ddyfnder a chystadleuaeth yn y garfan ar gyfer y crysau hyn.
Felly, os ydym ni eisiau cystadlu yn erbyn prif dimau rygbi’r byd, megis Seland Newydd, yn y blynyddoedd nesaf, pam ddylen ni adael eu pumed dewis nhw o faswr yn syth i’r garfan?
Wrth gwrs, dw i ddim yn erbyn y syniad o edrych ar Anscombe fel opsiwn, ond bosib mai opsiwn tu hwnt i Gwpan y Byd fyddai mwyaf addas iddo ef, ac i Gymru.
Mae’r opsiynau presennol wedi llwyddo i brofi eu hunain dros y rhanbarthau, ac wedi cael eu magu i chwarae yn awyrgylch rygbi hemisffer y gogledd. A dyma sydd angen i Anscombe brofi, yng nghrys y Gleision efallai, cyn cael ei alw i’r garfan ryngwladol.
Yn y cyfamser, dw i’n credu fod angen i Gatland benderfynu ar ei faswr ar gyfer Cwpan y Byd mor fuan â phosib. Priestland neu Biggar? Patchell ta Owen Williams?
Byddai penderfynu hynny rŵan yn adeiladu hyder yr unigolyn, rhoi cyfle iddynt gael y nifer mwyaf o brofiadau ar y llwyfan rhyngwladol ac yn gosod system sy’n galluogi i’r maswr reoli’r gêm.
Gallwch ddilyn Owain ar Twitter ar @owainwg.