Gallai seren Cymru a Real Madrid Gareth Bale fod yn arwain y tîm cenedlaethol yn erbyn Yr Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar y mis nesaf.

Ni fydd y capteiniaid rhyngwladol Aaron Ramsey ac Ashley Williams yn bresennol, ac er nad oes sôn eto pwy fydd yn arwain Cymru mae llawer yn credu mae Gareth Bale yw’r ffefryn i wneud y swydd.

‘‘Mae gen i gapten mewn golwg, ond nid yw’n gwybod eto.  Mi fydd yn cael y neges yn fuan.  Mi fydd yna gapten arall a byddaf yn cael sgwrs gydag ef,’’ meddai rheolwr Cymru, Chris Coleman.

Ni fydd enillydd Cwpan FA Aron Ramsey, Capten Abertawe Ashley Williams, Sam Ricketts nac ychwaith James Collins yn y garfan a fydd yn herio’r Iseldiroedd.

Yn ogystal â wynebau cyfarwydd, bydd gan Coleman gyfle i ddewis talent ifanc fel Tom Lawrence o Manchester United ac amddiffynnwr Hull James Chester.

‘‘Fel rheolwr rhyngwladol rydych yn edrych i esgyn yn y safleoedd ac i wneud hynny mae’n rhaid ennill yn erbyn timau fel Yr Iseldiroedd.  Gallwch drefnu gemau cyfeillgar yn erbyn gwrthwynebiad gwannach, ac er ei fod yn edrych yn dda ar bapur eich bod wedi ennill y gêm, nad ydych wedi dysgu llawer ac yn sefyll yn yr unfan yn y safleoedd,’’ ychwanegodd Coleman.