Iolo Cheung
Iolo Cheung sy’n esbonio pam fod diwygio strwythurau ieuenctid Lloegr yn hwb i Gymru …
Gyda Chwpan y Byd ym Mrasil yr haf hwn, a Lloegr wedi cyrraedd y rowndiau terfynol unwaith eto, fe allwch chi ddisgwyl digon o gyffro a baneri San Siôr o gwmpas.
Bydd llawer o Gymry (ac eraill) wrth gwrs yn mabwysiadu’r Eidal, Uruguay a Chosta Rica fel eu gwledydd nhw i’w cefnogi, o leiaf yn ystod gemau’r Saeson yng Ngrŵp D.
A phan fydd Lloegr yn anochel yn colli ar benaltis i Golombia yn rownd yr 16 olaf, a’r cyfryngau yn melltithio nag oes digon o chwaraewyr talentog yn cael eu creu gan Loegr, fe fydd y Cymry hynny’n cael gwên fach slei.
Ond y gwir yw nad tîm cenedlaethol Lloegr yn unig fyddai’n elwa o systemau academi a strwythurau ieuenctid gwell ymysg eu clybiau, ond Cymru hefyd.
Yn ddiweddar fe awgrymodd adroddiad gan FA Lloegr y dylid lansio ‘Cynghrair Tri’, fyddai’n cyflwyno timau ieuenctid clybiau’r Uwch Gynghrair i system byramid cynghreiriau Lloegr.
Mae hwn yn syniad hurt bost am lawer o resymau – ond y gwir yw bod angen diwygio, ac y dylai Cymru dalu sylw agos i ddatblygiadau.
Twpdra Cynghrair Tri
Mae digonedd o bobl gan gynnwys y Gynghrair Bêl-droed eisoes wedi gwrthwynebu syniad Greg Dyke o gael Cynghrair Tri yn gyhoeddus, felly wna i ddim mynd i fanylder ar hwn.
Yn syml y syniad yw creu adran newydd gyda thimau dan-21 clybiau’r Uwch Gynghrair fyddai’n cael ei osod rhwng Cynghrair Dau (ble mae Casnewydd) a’r Gyngres (adran Wrecsam).
Heb fynd i lawer o fanylder, y syniad oedd y byddai’r timau dan-21 yma wedyn yn dyrchafu ac yn disgyn drwy’r cynghreiriau eraill wedyn, gan olygu bod y timau ieuenctid yn cael chwarae gemau cystadleuol yn erbyn clybiau eraill.
Ac er y byddai’r gemau cystadleuol yn llawer gwell iddyn nhw na’r gynghrair ieuenctid maen nhw’n chwarae ynddi ar hyn o bryd, byddai wrth gwrs yn cael ergyd anferthol ar rai o glybiau Cynghrair Un a Dau fyddai’n disgyn oherwydd hyn.
Mae’n bosib y bysa ni’n gweld mwy o glybiau’n mynd i’r wal os ydyn nhw’n gorfod cystadlu ag academis y clybiau cefnog.
A man a man i Wrecsam, Bae Colwyn a Merthyr (a hyd yn oed Casnewydd o bosib) roi’r ffidil yn y to o ran cystadlu yng nghynghreiriau Lloegr petai hynny’n digwydd achos fyddai ganddyn nhw ddim gobaith o godi’n llawer uwch nag y maen nhw ar hyn o bryd.
Dibynnu ar y Saeson
Datblygu chwaraewyr ifanc disglair i’r tîm cenedlaethol yw nod hyn i gyd wrth gwrs – ac yn hynny o beth, hoffi neu beidio, mae dyfodol Cymru i raddau helaeth wedi’i chysylltu â Lloegr.
Y rheswm syml yw bod y rhan fwyaf o’n sêr cenedlaethol ni wedi cael eu datblygu gan academïau ac yna timau cyntaf clybiau Lloegr.
Iawn, mae lot gan gynnwys Aaron Ramsey, James Collins, Joe Allen a Ben Davies wedi dod drwy systemau Caerdydd ac Abertawe, ond gweithio o fewn system clybiau Lloegr maen nhw hefyd wrth gwrs.
I eraill fel Craig Bellamy a Gareth Bale roedd rhaid iddyn nhw fynd mor bell â Norwich a Southampton er mwyn datblygu eu potensial.
Ac wrth gwrs, mae clybiau gogledd orllewin Lloegr yn hanesyddol wedi magu llwyth o Gymry disglair, gydag Emyr Huws, Tom Lawrence, Harry Wilson a Gethin Jones i gyd yn sêr ifanc i bedwar clwb mawr Lerpwl a Manceinion.
Mae ychydig yn wahanol yn yr Alban, ble mae’r clybiau hynny’n gryfach na rhai Cymru a Celtic yn cystadlu’n rheolaidd yn Ewrop, gan roi platfform ychwanegol i’w chwaraewyr ifanc nhw ddod drwyddo.
Ond y gwir plaen yw bod unrhyw gamau sydd yn cael eu cymryd i wella datblygiad chwaraewyr ifanc Lloegr hefyd yn mynd i elwa’r Cymry sydd yn y systemau hynny.
Y farchnad fenthyg
Beth i’w wneud am y peth, felly? Mae’r farchnad drosglwyddo eisoes yn cael ei ddefnyddio i anfon rhai o chwaraewyr ifanc y clybiau mawr ar fenthyg i adrannau yn is i lawr.
Mae hon yn esiampl wych o sut i helpu chwaraewr ddatblygu – does dim ond rhaid edrych ar yr argraff mae Emyr Huws (Birmingham, o Man City) a Jonathan Williams (Ipswich, o Crystal Palace) wedi’i wneud yn y Bencampwriaeth eleni i weld hynny.
Gan gynnwys y gôl yma sgoriodd Huws:
Ond rhan o’r datblygiad hwnnw wrth gwrs yw ymuno â chlwb sydd yn brwydro’n gystadleuol am ganlyniadau bob wythnos, a hynny ar lefel sydd ddim yn bell o fod yn agos i safon llawer o’r Uwch Gynghrair.
Byddai cael Huws a Joniesta’n chwarae yng Nghynghrair Tri gyda’r kids, yn erbyn kids eraill, ddim hanner mor gystadleuol.
Wrth gwrs, dydi’r ffordd mae clybiau mawr yn casglu chwaraewyr ifanc i gyd ac wedyn eu benthyg nhw allan i gyd ddim wir yn helpu.
Byddai’n well efallai cyfyngu ar faint o chwaraewyr sydd yn gallu cael eu hanfon allan yn y modd yma – ac fe fyddai hyn efallai’n annog rhai i chwilio am glybiau parhaol yn y Bencampwriaeth/Cynghrair Un yn hytrach na llesteirio yn nhimau ieuenctid y Prem.
Mae’r rheolau newydd sydd yn mynnu bod yn rhaid cynnwys wyth chwaraewr ‘homegrown’ yng ngharfan o 25 pob tîm yn yr Uwch Gynghrair hefyd yn helpu.
Diffiniad hyn ydi unrhyw chwaraewr sydd wedi treulio tair blynedd gyda’r clwb cyn eu bod nhw’n 21 oed – o unrhyw genedl, ond wrth gwrs mae hyn yn manteisio chwaraewyr o Brydain.
Byddai cynyddu’r cwota hwn ychydig dros amser – yn ogystal â chyflwyno rheol ble mae rhaid cynnwys rhai ohonynt yng ngharfan pob gêm – yn annog y clybiau i ganolbwyntio mwy ar ddatblygu eu talent eu hunain.
Chwaraewyr tramor yn aros
Mae’n anochel, gyda chlybiau Uwch Gynghrair Lloegr mor gyfoethog, fod sêr o bob cwr o’r byd yn mynd i fod yn chwarae yn y gynghrair, ac mae unrhyw un sydd yn meddwl bod modd newid hynny’n naïf.
Ond dydi hyn ddim yn golygu nad oes modd rhoi mwy o gyfle i’r Cymry ifanc chwarae i’r clybiau mawr yn gynt.
Wedi’r cyfan, am bob chwaraewr o dramor rydan ni’n mwynhau ei wylio bob wythnos oherwydd eu bod nhw’n chwaraewyr gwych, mae ‘na rai sâl iawn ar adegau hefyd!
Mae cydnabyddiaeth eang fod angen gwella hyfforddiant ieuenctid yn y wlad hon o’i gymharu â gwledydd eraill – mae dros ddwbl y nifer o hyfforddwyr pêl-droed cymwysedig i gael yn Sbaen a Ffrainc nac sydd yn Lloegr er enghraifft.
Ac mae gormod o bêl-droed ieuenctid yn cael eu chwarae ar gaeau mawr, sydd wrth gwrs yn fantais i’r plant sydd yn tyfu’n dal ac yn gryf yn gynt na’r lleill yn hytrach na’r dewiniaid bach â’u techneg.
Wrth gwrs fod yna ddigon o sêr ifanc yn dod drwyddo – mae Gareth Bale yn enghraifft wych o hynny – ond mae angen rhagor o ddiwygio yn strwythurau ieuenctid Lloegr er mwyn sicrhau eu bod yn cael pob cyfle posib i lwyddo.
A’r gwir ydi, pan fydd sylwebyddion yn ochneidio’r haf hwn fod ‘na ddim cyfleoedd i Saeson ifanc gyda’r clybiau mawr, cofiwch fod yr un peth yn wir am y Cymry.
Gallwch ddilyn Iolo ar Twitter ar @iolocheung.