Stadiwm Nantporth Bangor
Fe fydd gêm enfawr b’nawn yfory wrth i Bangor a’r Rhyl herio’i gilydd am yr hawl i chwarae yng nghynghrair Ewropa a dod â £110,000 i’r coffrau.

Mae Nev Powell rheolwr Bangor wedi llwyddo yn rhyfeddol y tymor hwn wrth ystyried bod ganddo lawer llai o arian ar ôl methu cyrraedd Ewrop y tymor diwethaf.  Gyda charfan lai sy’n cynnwys chwaraewyr profiadol fel Les Davies, Sion Edwards, Michael Johnston a Chris Jones bu’n rhaid cynnwys nifer o chwaraewyr o’r tîm dan 19 oed.

Fe fydd pertneriaeth Michael Johnston ac Anthony Miley yn  allweddol i Fangor yng nghanol yr amddiffyn  wrth geisio atal ymosodiadau Y Rhyl.

Yn y pen arall bydd Nev Powell yn gobeithio y bydd cyflymder Chris Jones wrth chwarae gyda Les Davies yn peri trafferth i amddiffyn Y Rhyl.

Bydd Y Rhyl yn gobeithio ennill eu lle yn Ewrop yn eu tymor cyntaf nôl yn Uwch Gynghrair Cymru ers tair blynedd.

Pan ranodd y gynghrair yn ddwy roedd Y Rhyl yn y seithfed safle ond fe gollodd Aberystwyth dri phwynt am ganiatáu i Peter Hoy chwarae pan oedd hwnnw wedi ei wahardd.  Yr oedd hyn yn golygu bod Aberystwyth yn syrthio un safle a’r Rhyl yn elwa a chael y chweched safle.

Yn ystod 10 gêm olaf y tymor dim ond dwy fuddugoliaeth gafodd Y Rhyl.

Ond yn y gemau ail chwarae fe wnaethon nhw chwalu deg dyn Caerfyrddin 6-1.  Mae’n debyg y bydd Steve Lewis a’r chwaraewr canol cae Peter Dogan yn colli’r gêm i’r Rhyl.

O ran Bangor, bydd Jamie Brewerton a Jamie Petrie yn methu chwarae oherwydd anafiadau.

Bydd cefnogwyr y ddau dîm yn cael eu cadw ar wahân yn ystod y gêm ac yn cael eu harchwilio cyn mynd i’r cae.  Mae’r cefnogwyr wedi eu hannog i gyrraedd yn gynnar i sicrhau na fydd trafferth wrth y mynedfeydd.

Mae’r gic gyntaf ar gae Nantporth ym Mangor am dri y p’nawn, a’r ornest yn fyw ar Sgorio ar S4C.