Wilfried Bony
Yn ôl adroddiad yn y South Wales Evening Post heddiw mae Everton yn awyddus i arwyddo Wilfried Bony i gymryd lle Romelu Lukaku a fydd yn dychwelyd i Chelsea ar ôl cyfnod ar fenthyg ar Barc Goodison.

Ymunodd Bony â’r Elyrch y llynedd o Vitesse Arnhem am £12 miliwn, a oedd yn record i’r clwb.

Mae wedi sgorio 25 o goliau yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb o Gymru, gyda phump o’r rheiny yng Nghynghrair Europa ble y bydd Everton yn cystadlu’r tymor nesaf.

Er y sibrydion cyson ei fod ar fin gadael mae Bony wedi datgan ei fod yn gweld ei ddyfodol gyda’r Elyrch.