Aaron Ramsey
Pan gollodd Caerdydd i Portsmouth yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 2008 fe adawodd Aaron Ramsey Wembley yn ei ddagrau.
Yn sytod y gêm honno camodd Ramsey i’r cae fel eilydd yn ystod yr hanner awr olaf ac yntau ond yn 16 oed. Nid yw am ail fyw’r profiad hwnnw pan fydd yn chwarae i Arsenal yn erbyn Hull yfory.
Ers ymuno gydag Arsenal yn Haf 2008 mae Ramsey wedi datblygu yn chwaraewr canol cae arbennig o dda, a hynny er gwaethaf y ffaith iddo dorri ei goes mewn dau le yn erbyn Stoke yn Chwefror 2010.
Cafodd ddechrau arbennig i’r tymor presennol gan sgorio 13 o goliau cyn colli tri mis o’r tymor oherwydd anaf. Dim ond yn ddiweddar y daeth yn ei ôl i’r tîm.
‘‘Yr wyf wedi profi siom yn Wembley yn y gorffennol gyda Chaerdydd ond gobeithio y bydd pethau yn wahanol y tro hwn. Mae’n amser cyffrous yn y clwb ac mae’n braf cael cystadlu am y Cwpan ac mae gennyf gyfle da i ennill,’’ meddai Ramsey.
‘‘Ychydig iawn o’r chwaraewyr sydd wedi ennill unrhyw beth a byddai ennill y Cwpan eleni yn ysgogiad i ennill mwy o bethau. Yr ydym yn dîm ifanc a rhaid cofio ein bod ar frig y gynghrair hyd at fis Chwefror. Er i mi golli llawer o’r tymor mae’n braf bod nôl.”
Bydd Arsenal v Hull yn cychwyn am bump yfory.