Sepp Blatter
Mae Llywydd FIFA Sepp Blatter wedi cyfaddef ei bod yn “gamgymeriad” dewis Qatar yn lleoliad Cwpan y Byd 2022.
Dywedodd Blatter bod yr adroddiad technegol ynghylch cynnig Qatar wedi rhybuddio ei bod yn rhy boeth yna, ond er hynny roedd uwch-bwyllgor FIFA wedi pleidleisio o blaid y wlad sy yn y Dwyrain Canol.
Oherwydd ei bod mor boeth yn yr Haf mae Blatter wedi dweud ei bod hi’n “debygol” y bydd Cwpan y Byd 2022 yn cael ei chwarae yn y Gaeaf.
Meddai Blatter wrth orsaf deledu RTS yn Y Swistir: “Oedd, wrth gwrs ei fod o’n gamgymeriad, ond mae rhywun yn gwneud sawl camgymeriad yn ystod ei fywyd.”