Stadiwm y Mileniwm
Mae cwmni Ticketmaster wedi gorfod gohirio’r broses o ddechrau gwerthu tocynnau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, gan gynnwys wyth gêm yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
Ar ôl trafferthion mawr gyda thocynnau Gêmau’r Gymanwlad yn Glasgow, maen nhw’n dweud bod angen mwy o amser i brofi’r system werthu.
Cafodd y wefan ei dewis gan drefnwyr y gystadleuaeth i werthu’r tocynnau, a’u bwriad oedd dechrau gwerthu’r 500,000 cyntaf ddydd Gwener i aelodau clybiau rygbi ar hyd a lled y wlad.
Bellach, mae Ticketmaster nawr wedi penderfynu gohirio dechrau gwerthu tocynnau Cwpan Rygbi’r Byd hyd at 29 Mai, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw brofi’u systemau.
Gêmau yng Nghymru
Bydd y twrnamaint yn 2015 yn cael ei gynnal gan Loegr, gyda Stadiwm y Mileniwm wedi’i dewis i gynnal wyth gêm gan gynnwys dwy o gêmau Cymru a dwy yn rownd yr wyth olaf.
Dim ond pobol sydd wedi cofrestru drwy eu clybiau rygbi fydd yn medru gwneud cais am y tocynnau cyntaf, fydd nawr ar werth rhwng 29 Mai a 2 Gorffennaf.
Bydd hyd at filiwn o docynnau eraill wedyn yn cael eu gwerthu i’r cyhoedd rhwng 12 a 29 Medi 2014.
Mewn datganiad dywedodd trefnwyr y gystadleuaeth, England Rugby 2015, fod gohirio gwerthu’r tocynnau’n golygu bod aelodau clybiau rygbi’n cael rhagor o gyfle i gofrestru.
“Mae dyddiad y gwerthu byw wedi cael ei symud o ddydd Gwener, 16 Mai [heddiw] yn dilyn cais gan Ticketmaster am fwy o amser i brofi’r system docynnau ar-lein maen nhw’n ei ddarparu, er mwyn sicrhau fod cefnogwyr rygbi’n cael y profiad gorau posib wrth archebu tocynnau,” meddai’r trefnwyr.
“Bydd y dyddiad gwerthu byw newydd [29 Mai] hefyd yn rhoi mwy o amser i glybiau rygbi gofrestru eu haelodau ar y system ar gyfer y 500,000 o docynnau sydd ar gael.”