Un o'r protestiadau y llynedd (PA)
Mae protestwyr a heddlu wedi gwrthdaro yn ninas Sao Paulo wrth i bobl ar hyd a lled Brasil brotestio yn erbyn Cwpan y Byd a galw am well gwasanaethau cyhoeddus.

Cafodd nwy dagrau a bwledi rwber eu saethu gan yr awdurdodau wrth iddyn nhw geisio atal y protestwyr rhag rhoi sbwriel ar dân i rwystro un o brif strydoedd y ddinas, a hynny o fewn golwg un o’r meysydd pêl-droed sy’n cynnal gêmau cwpan.

Mae’r ymgyrchwyr yn anhapus am gost uchel cynnal Cwpan y Byd, sy’n dechrau 12 Mehefin, ac yn cwyno am y gwario mawr ar y gystadleuaeth yn hytrach nag ar wella gwasanaethau cyhoeddus Brasil.

Y brotest yn troi’n dreisgar

Roedd tua 1000 o brotestwyr, y rhan fwyaf yn bobol ifanc, ar strydoedd Sao Paulo yn cadw sŵn â drymiau a chario baneri.

Ond fe drodd y brotest yn dreisgar pan chwalwyd ffenestr siop Hyundai a swyddfeydd banc.

Roedd protestiadau’n dal i rwystro dwy o brif ffyrdd Sao Paulo’r bore yma, ond yn ninasoedd eraill Brasil roedd yr ymgyrchwyr eisoes wedi rhoi’r gorau iddi neithiwr.

Cafodd protestiadau llawer mwy eu cynnal ar draws Brasil y llynedd pan gynhaliwyd Cwpan y Conffederasiwn yno, cystadleuaeth sy’n rhagflaenu Cwpan y Byd.

Bryd hynny fe aeth hyd at filiwn o bobol allan ar y strydoedd i brotestio nad oedd digon yn cael ei wario ar wasanaethau iechyd, addysg, diogelwch ac isadeiledd y wlad.

Mae trefnwyr Cwpan y Byd eleni’n gobeithio y bydd y twrnamaint yn dod â sylw positif i’r wlad, sydd yn frwdfrydig iawn am ei phêl-droed, ond mae’r protestwyr yn anhapus fod y gystadleuaeth yn debygol o gostio biliynau.