Iolo Cheung
Mae lle i gredu y gallai rhai timau elwa o golli’n fwriadol yn y bencampwriaeth newydd, yn ôl Iolo Cheung …

Mewn egwyddor mae’r gystadleuaeth newydd ‘ma – Cynghrair y Gwledydd, fel mae’n cael ei alw – yn glamp o syniad da gan UEFA.

Fe gyhoeddon nhw’r wythnos yma y byddai’r gystadleuaeth ryngwladol newydd i wledydd Ewrop yn dechrau ar ôl 2018, bob yn ail flwyddyn rhwng Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop.

Y prif amcan ydi sicrhau fod gwledydd yn chwarae mwy o gemau cystadleuol, yn lle’r gemau cyfeillgar sydd yn digwydd ar hyn o bryd.

Mae mwy o fanylion am y twrnament arfaethedig ar wefan UEFA, a dydyn nhw heb gadarnhau’r cwbl eto, ond o’r olwg gynta’ mae’n swnio’n syniad call iawn.

Cystadleuaeth yn poethi

Byddai 54 tîm rhyngwladol Ewrop yn cael eu rhannu i bedwar ‘adran’, ac yna grwpiau llai eto o dri neu bedwar tîm, yn seiliedig ar ddetholiadau UEFA – gyda Chymru ar hyn o bryd yn y drydedd ‘adran’ mwy na thebyg.

Y peth gorau am hyn fydd y gemau cystadleuol – o safbwynt Cymru fe fyddai cyfle i ni gael trio ennill twrnament bach yn erbyn gwledydd o safon gymharol.

Fe fydd timau’n cael dyrchafiad ac yn disgyn drwy’r adrannau hefyd, sy’n gneud pethau’n fwy difyr.

A’r peth mwya’ nodweddiadol ydi nad cystadlaethau bach yn sefyll ar ben ei hun yn unig fyddai’r rhain – bydd cyfle hefyd i gyrraedd Pencampwriaeth Ewrop, drwy gemau ail gyfle yn erbyn timau o’r un adran.

Gobeithio y bydd hyn hefyd yn cynyddu safon y pêl-droed drwy gydol Ewrop. Fydd San Marino ac Andorra ddim yn gorfod cael crasfa gan dimau gwell o hyd bellach, er enghraifft – fe fyddwn nhw hefyd yn cael y cyfle i chwarae yn erbyn timau o safon debyg iddyn nhw.

Ac yn amlwg fe ddylai fod yn reit gyffrous i ni allu gwylio’r cewri fel Sbaen a’r Almaen yn herio’i gilydd yn amlach hefyd.

Calendr lawn

Mae newyddion da i’r clybiau hefyd – fydd Cynghrair y Gwledydd ddim yn golygu mwy o gemau rhyngwladol, yn ôl UEFA beth bynnag.

Ar hyn o bryd mae ‘na 18 gêm (naw ‘double-header’) bob dwy flynedd ar y calendr rhyngwladol, 10 ar gyfer gemau rhagbrofol a’r gweddill yn rhydd ar gyfer gemau cyfeillgar.

Mae’n ymddangos y bydd chwech o’r rheiny yn cael eu neilltuo ar gyfer grwpiau’r twrnament newydd, y cyntaf i’w gynnal rhwng Medi a Thachwedd 2018, gyda’r gemau terfynol rywbryd yn 2019.

Ond byddai hyn yn barod yn golygu hyd at 18 o gemau o bosib – beth am gemau ail gyfle Ewro 2020 fyddai’n digwydd yng ngwanwyn 2020 yn ôl UEFA?

Da chi ‘di drysu eto? Achos dwi wedi! Mae UEFA fel petai nhw’n bwriadu rhedeg dwy gystadleuaeth ar y cyd, yn ogystal â chael rhyw fath o gyswllt rhwng y ddau, ac felly fe fydd yn rhaid i ni aros tan iddyn nhw gyhoeddi union strwythur Cynghrair y Gwledydd cyn i bethau ddod yn gliriach.

Wedi deud hynny, dydi Cymru ddim wedi bod y gorau am fanteisio ar ddyddiadau gemau cyfeillgar yn y gorffennol – felly o safbwynt y cefnogwyr fe fydd croeso mawr i’r gemau cystadleuol rheolaidd yma.

Un anfantais, wrth gwrs, ydi nad fydd llawer o le ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn gwledydd y tu hwnt i Ewrop, fel rhai Cymru yn erbyn yr Ariannin (2002) a Brasil (2006).

Dydi hynny ddim wedi bod yn broblem yn ddiweddar – ond petai’r tîm yn gwella yn y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â bod hefo ‘pulling power’ seren fel Bale, byddai’n braf gallu manteisio ar y cyfle unwaith eto.

Colli’n fwriadol?

Ond y peth mwya’ syfrdanol y mae UEFA wedi’i gyhoeddi am y twrnament newydd hyd yn hyn ydi y bydd pob tîm sydd yn ennill gemau ail gyfle eu ‘hadran’ nhw yn cael lle yn yr Ewros.

I fod yn glir, mae hyn yn cynnwys pwy bynnag fydd yn ennill Adran 4 – sef adran yr 16 tîm gwaethaf yn Ewrop.

Oni fyddai’n well i dîm o safon Cymru, felly, golli’n fwriadol er mwyn disgyn i Adran 4, er mwyn cael siawns well o ennill yn erbyn y timau gwan a chyrraedd yr Ewros drwy’r drws cefn? (Gallai’r un peth fod yn wir am dimau o adrannau uwch i ryw raddau hefyd).

Dychmygwch allu cyrraedd twrnament rhyngwladol dim ond drwy guro timau fel Moldofa neu Cyprus mewn gemau ail gyfle, yn lle gwledydd fel Sweden a Croatia?

Mae’r Ewros yn haws i’w cyrraedd rŵan yn barod, ar ôl ymestyn o 16 i 24 tîm, ac fe fyddai hyn yn tanseilio’r gystadleuaeth rhywfaint – fe ddylai enillwyr Adran 4 o leia’ orfod chwarae gêm ail gyfle yn erbyn tîm o Adran 3.

Bydd angen i UEFA fod yn ofalus o hyn cyn cyhoeddi’r strwythur terfynol, yn sicr.

Ond does dim dwywaith y dylai Cynghrair y Gwledydd fod yn ychwanegiad cyffrous i’r calendr rhyngwladol, a dwi’n mawr obeithio y bydd yn llwyddiannus – mae ‘na rywbeth ynddi ar gyfer pob gwlad.

Wnaethoch chi lwyddo i wneud synnwyr o gynlluniau UEFA? Beth yw eich barn chi? Gallwch adael sylw neu drydar Iolo ar @iolocheung.