Illtud Dafydd
Byddai gêm gyfeillgar rhwng carfan Cymru yn rhoi cyfle i enwau newydd wneud eu marc, yn ôl Illtud Dafydd …

Yn ddiweddar fe awgrymodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, y syniad o gynnal gêm brawf cystadleuol ymysg ei garfan gan gynnwys rhai chwaraewyr ar yr ymylon.

Byddai gêm y “Probables vs Possibles” yn cael ei chynnal ar nos Wener 30 Mai, bythefnos cyn y gêm brawf cyntaf yn erbyn De Affrica (14 Mehefin ym Mharc Kings GrowthPoint Durban, 14:00).

Dwi’n cofio gwylio rhywbeth tebyg ar Y Clwb Rygbi yn y nawdegau hwyr/2000au cynnar yn fyw o gae Sain Helen, Abertawe.

Roedd pedwar tîm yn cystadlu (Cymru “A”, “B”, “C” ac “D”) yn erbyn ei gilydd os dwi’n cofio’n iawn, i gyd yn gwisgo cit lliw plaen, gêm brawf a gynhaliwyd o dan oruchwyliaeth y Ciwi diwethaf i hyfforddi’r tîm cenedlaethol, Graham Henry.

Penbleth y maswr a’r ail reng

Byddai’r ddau dîm eleni yn bell o fod yn hafal o ran safon, ond dyna fwriad y gêm – rhoi’r ddau chwaraewr sy’n cystadlu am yr un crys wyneb yn wyneb a’i gilydd dros 80 munud.

Gellir rhoi’r crys rhif 10 i naill ai Biggar neu Priestland dros y “Probables” ac nid yw’r Teigr o Gaerlŷr, Owen Williams, na maswr y Dreigiau Jason Tovey yn bell i ffwrdd, heb sôn am y posibiliad o symud y Catalanwr James Hook i’r safle gan ryddhau’r crys rhif pymtheg i rywun fel Jordan Williams o’r Scarlets.

Daw’r gystadleuaeth fwyaf heb os nac oni bai yn yr ail reng, gyda hanner dwsin o gewri dros chwe throedfedd â digon safon i ddechrau yn y gêm brawf gyntaf yn erbyn y Boks.

Alun Wyn Jones yw’r dewis cyntaf, gyda Luke Charteris a’i daldra yn elfennol y leiniau, tra bod Jake Ball ac Andrew Coombs ddim yn bell tu ôl.

Problem Ian Evans ac Bradley Davies yw eu disgyblaeth ar y cae ond byddai’r ddau yn cyflwyno her gorfforol yn erbyn ail reng fawr a fydd siŵr o fod yn cynnwys Eben Eztbeth (yn dychwelyd o anaf erbyn mis Mai) a Flip van der Merwe.

Diffyg dyfnder y rheng ôl?

Tu ôl iddynt yn y sgrym fyddai’r dewis anoddaf i’r “Possibles”, gyda diffyg profiad (naw cap rhwng y rheng ôl – dau i Pretorius, saith i Shingler a dim i Lewis) ddim yn helpu eu hachos.

Mae hefyd yn adlewyrchu ffitrwydd a safon gyson y rheng ôl dewis cyntaf (Sam Warburton er ei fod wedi anafu ac yna Faletau, Tipuric a Lydiate).

Mae’r Gwalch ifanc, Sam Lewis, wedi dangos ei safon tra bod Tipuric wedi bod gyda’r garfan ryngwladol.

Mae sawl tramorwr hefyd yn chwaraewyr rheng ôl yn y rhanbarthau fel John Barclay gyda’r Scarlets a Netani Talei ar Rodney Parade, heb anghofio am Pretorius a anwyd yn Nelspruit yn lleihau cyfleoedd y bechgyn ifanc o Gymru.

Cyfri’r ceiniogau

Mae’r syniad o gynnal gêm “Probables vs Possibles” gan Warren Gatland yn ddiddorol iawn, i gefnogwyr ac i’r tîm hyfforddi, syniad a ysgrifennodd Jonah Lomu amdano yn ei hunangofiant gan ddweud ei fod wedi gwisgo crys gwyn dros y “Possibles” ac wynebu Jeff Wilson yn y crys du mewn gêm debyg.

Os cynhelir y gêm ar noswyl rownd derfynol y Rabo Pro 12 a bod y Gweilch yn cyrraedd yno, fe fydd dewis Gatland o chwaraewyr yn teneuo ac felly yn gwanhau’r profiad iddo fel y dyn sy’n dewis y garfan.

Ond wrth gwrs, pe bai’r gêm yn cael ei chwarae ar Stadiwm y Mileniwm fe fyddai heb os yn ychwanegu sawl punt at goffrau iachus Undeb Rygbi Cymru.

Tîm y Probables: Liam Williams, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Rhys Priestland, Mike Phillips; Toby Faletau, Justin Tipuric, Dan Lydiate, Alun Wyn Jones, Luke Charteris, Adam Jones, Ken Owens, Gethin Jenkins

Tîm y Possibles: James Hook, Hallam Amos, Scott Williams, Cory Allen/Ashley Beck, Eli Walker, Dan Biggar, Rhys Webb; Andries Pretorius, Sam Lewis, Aaron Shingler, Andrew Coombs, Ian Evans, Rhodri Jones, Emyr Phillips, Paul James

Gyda’r doctor: Leigh Halfpenny, Richard Hibbard, Sam Warburton

Beth wnewch chi o’r syniad o gêm gyfeillgar rhwng carfan Cymru? Gallwch adael sylw neu drydar Illtud ar @illtuddafydd.