Joe Allen
Mae’r Cymro Joe Allen yn galw ar ei gydchwaraewyr yn Lerpwl i beidio â meddwl gormod am eu gemau anferthol yn erbyn Macnhester City a Chelsea, sydd hefyd yn y ras i gipio Uwch Gynghrair Lloegr.
‘‘Er y bydd y sôn am ymweliadau Chelsea a Manchester City i Lerpwl, mae pob gêm yn bwysig a thri pwynt am bob buddugoliaeth,’’ meddai Joe Allen.
Mae Lerpwl, sy’n ail yn y gynghrair ar hyn o bryd, yn chwarae Tottenham Hotspur ddydd Sul.
‘‘Yr ydym yn gyffrous gyda’n safle ar hyn o bryd ac yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cadw’r rhediad da yma i fynd, ond mae gennym gemau anodd o hyn hyd ddiwedd y tymor. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio a bod yn gryf yn feddyliol ymhob gêm hyd ddiwedd y tymor,’’ ychwanegodd Joe Allen.
Mae’r Cymro wedi dechrau’r dair gêm ddiwethaf, ond yn cyfaddef na all byth gymryd ei le yn y tîm yn ganiataol. Cyn y rhediad hwn dim ond wyth gêm yr oedd wedi ddechrau’r tymor hwn.
‘‘Mae’n anodd i sefydlu eich hun mewn clwb fel Lerpwl gan fod y gystadleuaeth mor gryf. Mae pawb wedi cyfrannu i’r tîm mewn gwahanol ffyrdd y tymor hwn a dyna sydd wedi ein gwneud mor llwyddiannus. Bob tro y byddwn yn camu i’r cae yr ydym yn hyderus y gallwn ennill.”