Ryan Giggs
Mae disgwyl i gyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru Ryan Giggs ynghyd â Paul Scholes, Gary a Phil Neville a Nicky Butt gwblhau y gwaith papur priodol i brynu clwb pêl-droed Salford yn hwyrach eleni.

Yr oedd y pump yn cyd-chwarae i dîm Manchester United ac yn cael eu hadnabod fel  ‘Class of 92’ wedi iddynn nhw ennill Cwpan Ieuenctid yr FA.  Mae Ryan Giggs yn dal i chwarae i dîm cyntaf United ac yntau’n 40 oed.

‘‘Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw Salford i mi,” meddai’r Cymro o Gaerdydd.

“Yr ydym am ddefnyddio ein gwybodaeth o’r gêm a’n profiad i ddatblygu pêl-droed yn y gymdeithas, ac mae cael y cyfle i wneud hynny yn Salford yn gwneud y peth yn fwy cyffrous.

Ychwanegodd Gary Neville: ‘‘Cefais fy ngêm brawf gyntaf i Manchester yn Salford ac ni wnaf anghofio’r profiad hwnnw.”

Cafodd clwb Salford ei ffurfio yn 1940 ac ar hyn o bryd mae’r tîm yn chwarae o flaen torf o ryw 100, ond fe allai hynny newid yn llwyr pan fydd y perchnogion newydd wrth y llyw.

Mae gan aelod arall o ‘Class 92’, David Beckham, gynlluniau i adeiladu stadiwm i 25,000 o gefnogwyr yn Miami ar gyfer ei dîm newydd.