Mae fforwm criced wedi cael ei sefydlu i drafod dyfodol y gamp yng ngogledd Cymru.

Daeth y newyddion ar drothwy’r noson olaf mewn cyfres o sioeau teithiol sydd wedi’u trefnu gan Glwb Criced Morgannwg.

Mi fydd Fforwm Criced Gogledd Cymru’n cael ei lansio’n swyddogol yng Nghlwb Criced Bangor am 4yh heddiw, cyn i’r sioe deithiol gychwyn am 7yh.

Cafodd y noson gyntaf yn y gogledd ei chynnal yng Nghlwb Criced Yr Wyddgrug neithiwr.

Prif Weithredwr newydd Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fydd yn lansio’r fforwm yn swyddogol, ac fe fydd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart hefyd yn bresennol.

‘Strwythur llywodraethu eglur’

Yn ôl Criced Cymru, nod y fforwm ydi “darparu strwythur llywodraethu eglur ar draws holl agweddau criced gogledd Cymru” ac i “herio a chyflwyno’r newidiadau angenrheidiol”.

Mae disgwyl i’r fforwm ymdrin â rhai o bynciau llosg y byd criced yn y gogledd, gan gynnwys diffyg chwaraewyr a safonau, efo pwyslais arbennig ar gadw diddordeb plant dros 15 oed, magu cysylltiadau efo ysgolion a chefnogi hyfforddwyr a dyfarnwyr.

Y ffigwr blaenllaw a phrofiadol ym myd criced yng ngogledd Cymru, Glyn Watkin Jones fydd yn cadeirio’r fforwm, ac mi fydd cynrychiolwyr o holl gyrff criced y rhanbarth yn rhan o’r fforwm hefyd.

‘Cam arwyddocaol’

Mi fydd disgwyl i Griced Gogledd Cymru gydweithio efo Criced Cymru i gyflwyno strategaethau a mentrau Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

Dywedodd cadeirydd y fforwm, Glyn Watkin Jones: “Mae hwn yn gam arwyddocaol tuag at amddiffyn y gamp yng ngogledd Cymru ac mae’n fraint gen i gael fy mhenodi’n gadeirydd grŵp sydd â swyddogaeth mor bwysig.

“Bu criced yn gamp boblogaidd yng Nghymru ers dros ganrif ac mi fyddai’n drueni mawr ei cholli trwy ddiffyg gweithredu.”

Bydd y fforwm yn dechrau ar ei waith ar Ebrill 1.