Leigh Halfpenny
Mae’r cefnwr rhyngwladol Leigh Halfpenny yn credu y gall Cymru guro De Affrica ym mis Mehefin.
Ar ôl colli i Dde Affrica yn ystod gemau’r Hydref, fe fydd Cymru yn teithio i Growthpoint Kings Park ar gyfer y prawf cyntaf.
Er na fu Pencampwriaeth eleni, fe wnaeth Cymru orffen Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gadarn wrth guro’r Alban 51-3, a chredai Halfpenny y bydd hynny’n magu hyder wrth iddynt herio De Affrica.
‘‘Gyda’r sgôr yna, rwy’n siŵr bod yr hyder yn llifo trwy’r garfan wrth iddynt baratoi ar gyfer De Affrica. Mae’r daith yn mynd i fod yn her eithriadol i’r chwaraewyr ond maent yn obeithiol am ddwy fuddugoliaeth,’’ meddai Halfpenny.
‘‘Roedd hi’n braf gweld y bechgyn yn chwarae’n dda yn erbyn yr Alban, fe aethom ati i geisio creu hanes trwy gipio’r Bencampwriaeth am y trydydd tro o’r bron ond yn methu ei wneud ac wedi siomi am beidio cyflawni hynny.
“Mae hon yn flwyddyn enfawr i ni, mae gennym gemau anodd yn yr Hydref yn erbyn Awstralia, Fiji, Seland Newydd a De Affrica ac mae angen buddugoliaeth yn erbyn timoedd hemisffer y de i roi hwb i ni ar gyfer Cwpan y Byd,’’ ychwanegodd Halfpenny.
Ni fydd Halfpenny yn cael ei gynnwys ar y daith oherwydd iddo ddatgymalu ei ysgwydd yn erbyn Lloger.